Mae fyngherdynteithio yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig 1/3 oddi ar bris tocynnau bws i bob person ifanc 16-21 oed yng Nghymru.

 

Pwy yw fyngherdynteithio

Cafodd fyngherdynteithio ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2015 fel cynllun peilot a oedd yn cynnig 1/3 oddi ar bris tocynnau bws ar gyfer unrhyw daith yng Nghymru i bob person ifanc 16, 17 ac 18 oed. Yn 2019, cafodd y cynnig ei ymestyn i bob person ifanc 19 i 21 oed hefyd.

Nod y cynllun yw annog mwy o bobl ifanc i deithio ar fysiau gan eu cynorthwyo i gael mynediad i addysg a gwaith, yn ogystal â mynd i’r afael â thagfeydd traffig a gwella ansawdd yr aer mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

Mae PTI Cymru wedi bod yn rhan o’r fenter ers y cychwyn cyntaf. Asiantiaid ein canolfan gyswllt yn y gogledd sy’n prosesu pob cais am fyngherdynteithio, a gyflwynir ar-lein neu drwy’r post. Mae’r gwaith prosesu yn cynnwys ychwanegu manylion y sawl sy’n gwneud cais am gerdyn at system fyngherdynteithio, argraffu’r cardiau a’u hanfon at y bobl ifanc drwy’r post.

Mae PTI Cymru hefyd yn darparu system ymateb ddwyieithog wedi’i theilwra ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran fyngherdynteithio, gan ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid drwy linell ffôn uniongyrchol a phenodol fyngherdynteithio. Mae gan dîm y ganolfan gyswllt wybodaeth helaeth am frand fyngherdynteithio ac mae wrth law o 7am i 8pm bob dydd i ateb unrhyw ymholiadau ynghylch gwneud cais am fyngherdynteithio a’i ddefnyddio. Mae’r tîm yn ymateb i unrhyw ohebiaeth a gaiff ei hanfon i gyfeiriad e-bost fyngherdynteithio ar gyfer adborth, gan gynnwys ymholiadau gan fusnesau a chwsmeriaid, ac mae’n monitro’r cwestiynau a gaiff eu hanfon drwy dudalennau fyngherdynteithio ar Facebook a Twitter.

Rhoddodd ein tîm marchnata yng Nghaerdydd flwyddyn o gymorth marchnata i’r cynllun yn dilyn y cyfnod peilot. Yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 mis, dyblodd nifer y ceisiadau am fyngherdynteithio o gymharu â’r nifer a gafwyd yn ystod 18 mis y cynllun peilot. Ers i’r cynllun fagu momentwm ac ehangu i gynnwys pobl ifanc 19 i 21 oed, rydym bellach yn darparu cymorth hyblyg i Lywodraeth Cymru yng nghyswllt y gwaith o greu, amserlennu a chyhoeddi cynnwys ar gyfer cyfrifon fyngherdynteithio ar gyfryngau cymdeithasol, ymgysylltu â phobl mewn digwyddiadau a diweddaru cynnwys y wefan. Mae’r presenoldeb digidol hwn yn helpu i hyrwyddo brand fyngherdynteithio, ymgysylltu â’r grŵp oedran dan sylw ac annog y sawl sy’n gymwys i gael y cerdyn i wneud cais amdano. Mae’r tîm marchnata hefyd yn mynychu digwyddiadau hyrwyddo ar ran fyngherdynteithio mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a mannau gwaith ledled Cymru.

Mae PTI Cymru yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ynghylch y niferoedd sy’n gwneud cais am fyngherdynteithio, ffigurau ynghylch galwadau ar sail dangosyddion perfformiad allweddol (y cytunir arnynt rhyngom ni a’r cleient) ac ystadegau ynghylch y wefan a chyfryngau cymdeithasol.

share