Mae TrawsCymru yn wasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau bws pellter hwy hanfodol ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

 

Pwy yw TrawsCymru

Mae TrawsCymru yn gweithredu 14 o wasanaethau bws pellter hwy ledled Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn chwarae rôl hanfodol yn rhwydwaith integredig Cymru o drafnidiaeth gyhoeddus ac maent yn cynnig dull hygyrch a fforddiadwy o deithio i ymwelwyr a thrigolion lleol, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

Mae PTI Cymru wedi bod yn darparu system ymateb ddwyieithog wedi’i theilwra ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran TrawsCymru ers 2016, ac mae wedi bod yn cydweithio’n agos â’r sefydliad ers 2009. Mae asiantiaid ein canolfan gyswllt yn y gogledd yn ymdrin ag ymholiadau cyffredinol sy’n ymwneud â gwasanaethau TrawsCymru, drwy linell uniongyrchol a phenodol sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae’r ymholiadau hynny’n cynnwys ymholiadau cyffredinol ynghylch teithiau, diweddariadau ynghylch unrhyw oedi ac achosion o ganslo teithiau, cyngor ynghylch ble mae cael gafael ar eiddo coll, a manylion ynghylch y graddau y mae gwasanaethau TrawsCymru ar gael ac yn hygyrch.

At hynny, mae asiantiaid PTI Cymru yn monitro gweithgarwch ar dudalennau Facebook a Twitter TrawsCymru gan sicrhau bod cwsmeriaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i wasanaethau. Maent yn ymateb i ymholiadau cwsmeriaid drwy’r llwyfannau hynny ac yn rhannu’r wybodaeth â rheolwyr TrawsCymru a gweithredwyr gwasanaethau.

Yn ogystal â monitro adborth ar gyfryngau cymdeithasol, mae asiantiaid canolfan gyswllt PTI Cymru yn gweithredu cyfeiriad ebost penodol ar gyfer adborth ynghylch TrawsCymru. Ymatebir yn broffesiynol ac yn brydlon i bob adborth o fewn amserlen y cytunwyd arni. Caiff unrhyw adborth y mae angen ymchwilio ymhellach iddo ei drosglwyddo i’r awdurdod perthnasol.

Mae tîm marchnata PTI Cymru yng Nghaerdydd yn gweithio gyda TrawsCymru i greu, amserlennu a chyhoeddi cynnwys y sefydliad ar gyfryngau cymdeithasol, gan helpu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a hyrwyddo brand TrawsCymru. Mae’r tîm hefyd yn goruchwylio’r gwaith o ddiweddaru gwefan TrawsCymru.

Mae tîm PTI Cymru yn llunio adroddiadau misol i reolwyr TrawsCymru ynghylch ymholiadau dros y ffôn a gweithgarwch ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn nodi meysydd ar gyfer gwella ym mhob agwedd ar y gwasanaeth.

 

“Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â PTI Cymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan ddatblygu un rhaglen integredig o ofal cwsmer ar gyfer TrawsCymru. Rwyf wedi bod yn fodlon iawn â lefel y cymorth a gynigir gan dîm PTI Cymru sy’n neilltuo amser i ddeall ein gofynion yn llawn a darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i gwsmeriaid ar ein rhan.”

David Hall, Rheolwr Rhwydwaith TrawsCymru

share