Polisi Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hynny’n ein helpu i gynnig profiad da i chi pan fyddwch yn pori ar ein gwefan, ac mae hefyd yn ein galluogi i’w gwella.

 

Beth yw cwci?

Ffeil destun fach yw cwci, a gaiff ei gosod ar eich porwr neu ar yriant caled eich cyfrifiadur gan wefannau y byddwch yn ymweld â nhw, os byddwch yn cytuno i dderbyn cwcis. Maent yn ein galluogi i gynhyrchu ystadegau ynglŷn â nifer yr ymwelwyr a gawn a’r defnydd y maent yn ei wneud o’n gwefan a’r rhyngrwyd. Cânt eu defnyddio hefyd i lunio hysbysebion wedi’u targedu ar sail ymddygiad defnyddwyr a phecynnau ystadegau’n ymwneud â phŵer, megis Google Analytics.

Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol:

  • Cwcis sesiwn. Ffeiliau cwcis dros dro yw’r rhain, a gaiff eu dileu pan fyddwch yn cau eich porwr. Cânt eu defnyddio i storio gwybodaeth am eich arferion pori tra byddwch yn defnyddio ein gwefan, a byddant ar waith nes y byddwch yn gadael y wefan ac yn cau eich porwr.
  • Cwcis parhaol. Mae cwcis parhaol yn ein helpu i gofio gwybodaeth amdanoch a chofio eich gosodiadau ar gyfer unrhyw ymweliadau yn y dyfodol. Mae hynny’n eich galluogi i gael mynediad cyflymach a mwy hwylus.
  • Cwcis dadansoddiadol neu gwcis perfformiad. Mae’r rhain yn ein galluogi i adnabod ymwelwyr a chyfrif eu nifer, a gweld sut y mae ymwelwyr yn symud o gwmpas ein gwefan tra byddant yn ei defnyddio. Mae hynny’n ein helpu i wella’r modd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft drwy sicrhau bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd yn hawdd i’r hyn y maent yn chwilio amdano.
  • Cwcis targedu. Mae’r cwcis hyn yn cofnodi eich ymweliad â’n gwefan, y tudalennau yr ydych wedi ymweld â nhw a’r dolenni cyswllt yr ydych wedi’u dilyn. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud ein gwefan a’r hysbysebion a arddangosir arni’n fwy perthnasol i’ch diddordebau chi.

Mae rhagor o wybodaeth am y cwcis unigol a ddefnyddir gennym, a’r dibenion yr ydym yn defnyddio’r cwcis ar eu cyfer, i’w gweld yn y tabl isod:

Ein cwcis
_hash

 

Caiff y cwcis hyn eu gosod er mwyn ein galluogi i wybod beth yw statws defnyddiwr ar ein gwefan, a chânt eu defnyddio at ddibenion megis trefniadau mewngofnodi a basgedi siopa.

Bydd y cwci hwn yn dod i ben cyn pen mis ar ôl dyddiad eich sesiwn.

PHPSESSID Mae’r cwci hwn yn storio’r dynodwr ar gyfer eich sesiwn gyfredol yn PHP.

Caiff y cwci hwn ei ddileu ar ddiwedd eich sesiwn.

Tocyn CSRF Ffugiad Cais Trawswefannol (Cross-Site Request Forgery (CSRF)) yw ymosodiad sy’n gorfodi defnyddiwr i gyflawni gweithredoedd nad yw’n dymuno ar wefan (er enghraifft, gallai eich data gael ei herwgipio a’i ddefnyddio i gyflawni tasgau). Mae’r cwci hwn yn ofynnol er mwyn amddiffyn defnyddwyr rhag ymosodiad o’r fath, ac mae’n ein galluogi i guddio eich data.
 

Trydydd partïon

Google Analytics Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am y defnydd y mae ymwelwyr yn ei wneud o’n gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau a’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys gwybodaeth am nifer yr ymwelwyr â’r wefan, o ble y mae’r ymwelwyr wedi dod, y tudalennau y maent wedi ymweld â nhw a’r dyfeisiau a’r porwyr y maent yn eu defnyddio.

Bydd y cwcis hyn yn dod i ben ar ôl 2 flynedd.

 

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y cwcis a osodir gan Google Analytics

 

Rheoli cwcis

Bydd y rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond gallwch atal cwcis drwy ddefnyddio’r gosodiad yn eich porwr sy’n eich galluogi i wrthod rhoi caniatâd i bob cwci neu rai cwcis gael eu gosod. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio gosodiadau eich porwr i atal pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol), mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael mynediad i bob rhan o’n gwefan neu ambell ran ohoni.

I gael gwybod mwy am gwcis, gan gynnwys sut y gallwch weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i http://www.allaboutcookies.org/.

Os na fyddwch yn ffurfweddu eich porwr, nodwch y byddwch yn derbyn y cwcis a ddarperir gan y wefan hon.

 

Diweddaru’r polisi hwn

Gallwn adolygu’r polisi cwcis hwn unrhyw bryd drwy addasu’r dudalen hon. Rhaid i chi ddarllen y dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn sylwi ar unrhyw newidiadau y byddwn wedi’u gwneud.