Rydym yn gwrando ar ein cwsmeriaid ac yn creu’r gwasanaethau a ddarperir gennym ar sail yr atebion y mae eu hangen arnynt. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn deilwra ein gwasanaethau er mwyn diwallu eich anghenion yn y ffordd orau.

 

Mae PTI Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sicrhau bod anghenion ein cleientiaid yn ganolog i’r hyn a wnawn. Rydym yn cydweithio â phob un o’n cleientiaid i ddarparu atebion creadigol ac arloesol sy’n llenwi bylchau yn arlwy presennol eu busnes. P’un a yw hynny’n golygu addasu’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig ar hyn o bryd neu’n golygu teilwra cyfuniad o’r gwasanaethau hynny i greu pecyn penodol ar eich cyfer, byddwn yn ymdrechu i fodloni’r gwahanol feini prawf y byddwch yn eu rhoi i ni ac yn ymdrechu i ragori arnynt.

Dyma rai enghreifftiau o’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig ar hyn o bryd i’n cleientiaid ym maes rheoli gwasanaeth i gwsmeriaid, cymorth marchnata a gwasanaethau data ynghylch bysiau. Gallwn ddarparu’r gwasanaethau hyn yn ddwyieithog neu yn Gymraeg neu Saesneg yn unig:

  • Ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn
  • Ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid drwy e-bost
  • Ymdrin ag ymholiadau drwy gyfryngau cymdeithasol
  • Ymdrin ag ymholiadau ynghylch eiddo coll
  • Ymdrin â chwynion
  • Rheoli system archebu gwasanaeth
  • Rheoli system prynu tocynnau
  • Darparu cwrs dros y ffôn
  • Rheoli cynnwys gwefan
  • Darparu cymorth yng nghyswllt cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
  • Cydlynu staff ar gyfer digwyddiadau
  • Darparu gwasanaethau data ynghylch bysiau.

Dyma ddetholiad bach o’r gwasanaethau y mae PTI Cymru wedi bod yn eu darparu’n fedrus ers 1999. Gyda’r profiad hwn mae gan ein tîm y capasiti, yr hyblygrwydd a’r agwedd broffesiynol i ddarparu’r gwasanaethau hyn ar eich rhan mewn modd sydd wedi’i deilwra ac sy’n gweddu i’ch sefydliad.

 

Waeth beth yw anghenion eich busnes, cysylltwch â ni i ddechrau trafod sut y gallwn deilwra ein gwasanaeth o safon i gwsmeriaid, ein cymorth marchnata, ein data ynghylch bysiau a’n gwasanaethau eraill er mwyn eu darparu ar ran eich sefydliad chi.

share