Mae tîm marchnata PTI Cymru, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, yn darparu cymorth effeithiol ac integredig ym maes marchnata i’n cleientiaid gan gynllunio a chreu gweithgarwch sy’n arwain at ganlyniadau y gellir eu mesur.

 

Mae ein tîm marchnata, yn swyddfa PTI Cymru yng Nghaerdydd, yn helpu cleientiaid i wella’r graddau y maent yn ymgysylltu â’u cwsmeriaid ar-lein ac fel arall ac yn eu helpu i feithrin presenoldeb digidol cryfach. Rydym yn cydweithio â’n cleientiaid i hybu eu strategaethau marchnata presennol mewn modd sy’n bodloni eu gofynion orau, gan gynnig cyngor proffesiynol a chymorth ymarferol.

Mae PTI Cymru yn cynnig lefelau amrywiol o gymorth marchnata i’w gleientiaid, yn dibynnu ar eu hanghenion a’u nodau strategol cyffredinol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau am gymorth marchnata unswydd ac am bartneriaethau tymor hwy, lle gallwn gynnig ein gwasanaeth rheoli marchnata a’n gwasanaeth cynghori ynghylch marchnata.

 

Mae ein gwasanaethau marchnata’n cynnwys y canlynol ymhlith eraill:

  • Rheoli cyfryngau cymdeithasol – Rydym yn cynorthwyo TrawsCymru a fyngherdynteithio, sy’n fentrau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i greu, amserlennu a chyhoeddi eu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter. Rydym yn cynnig cyngor ynghylch arddull y cynnwys a’r math o gynnwys y gellir ei ddefnyddio er mwyn ymgysylltu’n effeithiol â’u cynulleidfaoedd a hyrwyddo eu brandiau perthnasol. Caiff hynny ei wneud yn unol â chynlluniau marchnata presennol pob menter.
  • Mynychu digwyddiadau – Mae PTI Cymru yn dod o hyd i staff a all fynychu digwyddiadau hyrwyddo ar ran ein cleientiaid; mae hwn yn wasanaeth yr ydym yn ei gydgysylltu ar hyn o bryd ar gyfer fyngherdynteithio. Caiff pob un o’n staff proffesiynol ar gyfer digwyddiadau, yr ydym wedi meithrin perthynas gref â llawer ohonynt ar hyd y blynyddoedd, eu briffio’n llawn ynghylch beth y mae pob cleient yn ei wneud, sut y maent yn gweithredu a beth yw’r ffocws o ran marchnata ar gyfer digwyddiad penodol.
  • Rheoli cynnwys gwefannau – Rydym yn cynorthwyo rhai o’n cleientiaid i ddiweddaru cynnwys eu gwefannau. Mae’r tîm marchnata yn cydgysylltu’r gwaith o ddarparu’r wybodaeth dan sylw, gan gael gafael ar y testun angenrheidiol ac ar gyfieithiadau gan ein cleientiaid a llwytho’r cyfan ar eu systemau. Rydym hefyd yn cynnal adolygiadau o wefannau’r cleientiaid dan sylw er mwyn nodi unrhyw agweddau y gellid eu gwella i gyfoethogi profiad y defnyddiwr.

Gan mai PTI Cymru sy’n gyfrifol am gyflwyno brand Traveline Cymru, mae gan ein tîm reolaeth lawn ar wasanaethau marchnata Traveline Cymru hefyd. Mae’r gwaith hwnnw’n cynnwys creu a chyhoeddi cynnwys ar y wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol, gweithredu ymgyrchoedd ar-lein a thrwy ddulliau eraill, ateb ymholiadau cwsmeriaid a mynychu digwyddiadau hyrwyddo. Mae’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar ran Traveline Cymru yn unigryw, ond mae ein tîm marchnata yn croesawu ymholiadau gan ddarpar gleientiaid ynghylch y gwasanaethau hyn.

 

Gallwn deilwra ein gwasanaethau i gyd-fynd â’ch meini prawf, a chynnig pecyn o wasanaethau wedi’u teilwra. Ewch i’n tudalen gwasanaethau i gael gwybod mwy a chysylltwch â ni yma i gael gwybod beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo eich sefydliad chi.

share