Cleientiaid

Mae PTI Cymru yn cydweithio’n agos â phob un o’n cleientiaid i ddeall eu gofynion ac i ddarparu gwasanaeth sy’n diwallu eu hanghenion unigryw yn y ffordd orau. Cawsom sgôr o 97% mewn arolwg diweddar o fodlonrwydd cwsmeriaid ar gyfer un o’n cleientiaid ac rydym yn monitro dangosyddion perfformiad allweddol a gofynion hyfforddi staff yn rheolaidd, felly mae gennym bob ffydd yng ngallu ein tîm i ddarparu gwasanaeth rhagorol. Cymerwch olwg ar rai o’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’n cleientiaid ar hyn o bryd, er mwyn deall yn well sut yr ydym yn gweithio a beth y gallwn ei wneud i chi.

Traveline Cymru

Caiff Traveline Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ganolfan hollgynhwysol sy’n cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Gall cwsmeriaid gael gafael ar y wybodaeth hon drwy rif Rhadffôn Traveline Cymru, ei wefan a’i ap, sydd i gyd ar gael yn ddwyieithog.

Fyngherdynteithio

Mae fyngherdynteithio yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig 1/3 oddi ar bris tocynnau bws i bob person ifanc 16-21 oed yng Nghymru.

TrawsCymru

Mae TrawsCymru yn wasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau bws pellter hwy hanfodol ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Bwcabus

Mae Bwcabus yn darparu gwasanaethau ar hyd llwybrau penodol yn ogystal â theithiau sy’n ymateb i’r galw yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, De Ceredigion a Sir Benfro.

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, yn gweithredu nifer o lwybrau trên poblogaidd ar draws Cymru.

Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol (Y Gymdeithas Cwmnïau Gweithredu Trenau)

Mae Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol, sy’n rhan o’r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd, yn wasanaeth gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau trenau ar draws y rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Nextbike UK

Mae Nextbike UK, y darparwr rhannu beiciau, yn rhan o Nextbike GmbH, sef y gwasanaeth rhannu beiciau mwyaf yn y byd.

Drivetech

Mae DriveTech, sy’n rhan o’r AA, yn un o ddarparwyr amlycaf cynlluniau asesu a hyfforddi a chynlluniau addysg ar gyfer gyrwyr yn y DU.

Coleg Cambria

Mae Coleg Cambria yn un o gyfleusterau addysg bellach ac uwch mwyaf y DU, ac mae ganddo dros 34,000 o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru i gael addysg lawn-amser neu ran-amser.