Mae Bwcabus yn darparu gwasanaethau ar hyd llwybrau penodol yn ogystal â theithiau sy’n ymateb i’r galw yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, De Ceredigion a Sir Benfro.

 

Pwy yw Bwcabus

Mae Bwcabus yn wasanaeth bysiau arobryn sy’n gweithredu’n lleol ac sy’n gwbl hygyrch. Caiff ei ddarparu ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, PTI Cymru a Phrifysgol De Cymru. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu mewn parthau penodol, ar hyd llwybrau penodol ac mewn modd sy’n ymateb i’r galw lle caiff teithiau eu harchebu ymlaen llaw. Mae hynny’n galluogi cwsmeriaid i deithio mewn modd hyblyg yn lleol rhwng trefi, pentrefi a gwasanaethau’r prif lwybrau, lle nad oes gwasanaethau bysiau confensiynol eraill ar gael efallai.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

Mae PTI Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Bwcabus ers iddo gael ei sefydlu yn 2009, gan weithredu gwasanaeth archebu a chyfleuster gwasanaeth i gwsmeriaid yn benodol ar ei gyfer o’n swyddfa yn y gogledd.

Mae asiantiaid ein canolfan gyswllt ddwyieithog yn ateb ymholiadau cyffredinol dros y ffôn ynghylch sut y mae gwasanaeth Bwcabus yn gweithio, i ble ac o ble y gall cwsmeriaid deithio a sut y mae archebu taith. Mae gan ein hasiantiaid i gyd wybodaeth helaeth am y cynllun ac maent wrth law i ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid rhwng 7am a 7pm bob dydd.

Yn ogystal ag ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, mae PTI Cymru hefyd yn gweithredu systemau cofrestru ac archebu Bwcabus. Mae’r broses gofrestru’n digwydd drwy ebost neu dros y ffôn ac mae’r asiantiaid yn cofnodi manylion y cwsmeriaid ar system reoli Bwcabus. I gwsmeriaid sydd am archebu taith, mae asiantiaid PTI Cymru yn cofnodi’r cais a wneir dros y ffôn ynghyd â manylion y daith y mae’r cwsmer yn dymuno ei gwneud ar system reoli Bwcabus. Bydd yr asiantiaid hefyd yn cysylltu’n ôl â chwsmeriaid os oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’w taith. Caiff yr holl alwadau gan gwsmeriaid eu hateb cyn pen 30 eiliad.

Yn rhan o gyfleuster gwasanaeth i gwsmeriaid PTI Cymru ar gyfer Bwcabus, caiff adborth cwsmeriaid ei gasglu a’i gyfeirio gan yr asiantiaid. Caiff yr adborth ei drosglwyddo’n ôl wedyn i dîm rheoli’r gwasanaeth er mwyn tynnu sylw at unrhyw broblemau sy’n codi a mynd i’r afael â nhw. Caiff adborth ei ddarparu hefyd ar ffurf adroddiadau misol ar berfformiad gwasanaeth PTI Cymru, sy’n cynnwys ystadegau am berfformiad yng nghyswllt galwadau, dosbarthiad y galwadau bob mis, achosion o ganslo teithiau, a’r amser y mae’n ei gymryd i gysylltu’n ôl â chwsmeriaid.

“Mae gwasanaethau’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn PTI yn hollbwysig ac yn hanfodol i’r modd y mae prosiect Bwcabus/LINC yn gweithredu. Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan PTI Cymru yn unigryw i anghenion y prosiect ac yn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n cynnwys gwaith amserlennu, ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, cofrestru pobl, cynllunio teithiau, cymryd archebion, casglu adborth a chyflwyno adroddiadau. Mae PTI Cymru yn darparu gwasanaethau arbenigol nad ydynt ar gael mewn unrhyw ganolfan alwadau arall. Prif amcan Bwcabus yw galluogi teithwyr i deithio ymhellach drwy integreiddio gwasanaethau strategol, ac oherwydd mai PTI Cymru yw’r ganolfan wybodaeth genedlaethol i deithwyr yng Nghymru, mae’r cwmni yn hollbwysig ac yn y sefyllfa orau i gyflawni hynny. Mae llawer o hyfforddiant ynglŷn â llwybrau a systemau wedi’i roi i asiantiaid y ganolfan alwadau, ac mae llawer o amser ac arian wedi’i fuddsoddi.”                              
Kelly Phillips, Rheolwr Prosiect Bwcabus

share