Mae Nextbike UK, y darparwr rhannu beiciau, yn rhan o Nextbike GmbH, sef y gwasanaeth rhannu beiciau mwyaf yn y byd.

 

Pwy yw Nextbike UK

Ers dros 14 blynedd mae Nextbike wedi bod yn datblygu systemau dibynadwy, parhaol o safon ar gyfer rhannu beiciau. Lansiodd y cynllun yn y DU yn 2014, ac yn fwyaf diweddar daeth y cwmni â’i wasanaethau i Gaerdydd yn 2018. Nod y fenter yw gwneud rhannu beiciau yn fath o drafnidiaeth gyhoeddus leol sy’n gydradd â bysiau a threnau.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

Mae PTI Cymru yn gweithredu llinell ffôn benodol cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran Nextbike UK, gan helpu cwsmeriaid i gofrestru a rhentu beiciau a chan gynnig cymorth gydag unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio’r gwasanaeth. Mae ein hasiantiaid ar gael yn ein swyddfa yn y gogledd i ymdrin â’r galwadau hyn rhwng 7am ac 8pm bob dydd.

Mae’r holl asiantiaid yn cael hyfforddiant cynhwysfawr gan Nextbike UK ynghylch defnyddio ei systemau a’i wasanaethau, er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon ardderchog yn cael ei gynnig i gwsmeriaid bob amser ar ran y cleient. Caiff ceisiadau a chofrestriadau eu prosesu gan asiantiaid PTI Cymru drwy system archebu ar-lein Nextbike UK cyn pen tri diwrnod gwaith fan bellaf. Caiff yr holl alwadau ffôn eu hateb o fewn y targed o 30 eiliad, a darperir ymatebion cywir a phroffesiynol.

Mae PTI Cymru yn darparu adroddiadau misol i Nextbike UK ynghylch dangosyddion perfformiad allweddol, sy’n cynnwys nifer y galwadau yr ymdriniwyd â nhw, hyd y galwadau ar gyfartaledd, yr amser ar gyfartaledd y bu’n rhaid i bobl aros mewn ciw cyn i’w galwad gael ei hateb, a chyfanswm nifer yr ymholiadau a dderbyniwyd.

 

“Mae PTI Cymru wedi bod yn bwynt cyswllt cyntaf rhwng nextbike UK a chwsmeriaid nextbike sy’n siarad Cymraeg, ers i ni gyflwyno ein cynllun rhannu beiciau yng Nghaerdydd ac Abertawe yn 2018, ac mae’n darparu cymorth o’r radd flaenaf o safbwynt gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae lefel y cymorth a phroffesiynoldeb y gwasanaeth wedi bod yn rhagorol ac wedi cyrraedd yr un safonau uchel â’n tîm mewnol yn yr Almaen.”

NextbikeUK

share