Caiff Traveline Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ganolfan hollgynhwysol sy’n cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Gall cwsmeriaid gael gafael ar y wybodaeth hon drwy rif Rhadffôn Traveline Cymru, ei wefan a’i ap, sydd i gyd ar gael yn ddwyieithog.

 

Pwy yw Traveline Cymru

Traveline Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n helpu pobl i deithio’n hwylus o amgylch Cymru a thu hwnt. Gan weithio mewn partneriaeth â gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac awdurdodau lleol yng Nghymru, mae Traveline Cymru yn cynnig canolfan hollgynhwysol lle ceir gwybodaeth am amserlenni ac am gynllunio teithiau ar fysiau a threnau. Gellir cael gafael ar y wybodaeth hon drwy wefan Traveline Cymru, ei rif Rhadffôn a’i apiau sydd ar gael am ddim ar gyfer ffonau iPhone ac Android. Mae pob un o’r gwasanaethau hyn ar gael yn ddwyieithog ac maent hefyd yn darparu gwybodaeth am gerdded, beicio, parcio a theithio a chludiant cymunedol.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

Mae tîm data penodedig PTI Cymru yn cydweithio â gweithredwyr trafnidiaeth ac awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth gywir am drafnidiaeth gyhoeddus ar draws llwyfannau digidol Traveline Cymru. Caiff y data hwn ei gasglu, ei brosesu a’i lwytho i’r system ddata o swyddfa PTI Cymru yng Nghaerdydd gan dîm o wyth o bobl y mae rhai ohonynt ymhlith yr aelodau o staff sydd wedi gweithio hiraf i PTI Cymru.

Mae tîm marchnata PTI Cymru, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, yng Nghaerdydd hefyd. Prif gyfrifoldeb y tîm yw hybu’r defnydd a wneir o wasanaethau Traveline Cymru, gan sicrhau ar yr un pryd bod anghenion cwsmeriaid yn ganolog i’w holl weithgarwch. Mae’r tîm yn rheoli ac yn creu’r cynnwys ar gyfer gwefan Traveline Cymru a’i gyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol, yn mynychu digwyddiadau hyrwyddo ledled Cymru ac yn creu ymgyrchoedd cyffrous a blaengar er mwyn ymgysylltu â chwsmeriaid hen a newydd.

At hynny, gall cwsmeriaid ffonio rhif Rhadffôn gwasanaeth i gwsmeriaid Traveline Cymru. Caiff y gwasanaeth hwn ei weithredu gan asiantiaid canolfan gyswllt PTI Cymru yn y gogledd, sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor diduedd a dwyieithog yn rhad ac am ddim am drafnidiaeth gyhoeddus rhwng 7am ac 8pm bob dydd. Mae gan yr holl asiantiaid ddealltwriaeth gadarn o frand Traveline Cymru ac maent wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth gywir a hygyrch am drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae asiantiaid canolfan gyswllt PTI Cymru hefyd yn rhannu gwybodaeth am unrhyw oedi, newidiadau a diweddariadau i wasanaethau, drwy gyfrifon Traveline Cymru ar Facebook a Twitter. Caiff y cyfrifon hyn eu monitro rhwng 7am ac 8pm bob dydd, a thu hwnt i hynny yn ystod cyfnodau o dywydd garw, er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf.

Rydym yn annog ein cleientiaid i ymgymryd ag arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid er mwyn hybu datblygiad parhaus. Yn yr arolwg diweddaraf, barnwyd bod cwsmeriaid Traveline Cymru ledled Cymru gyda’r cwsmeriaid mwyaf bodlon, wrth i lefelau eu bodlonrwydd gyrraedd sgôr eithriadol o 97%. Cafodd canolfan gyswllt PTI Cymru ganmoliaeth fawr gan ei chleientiaid hŷn a roddodd sgôr o 95% iddi, sy’n dipyn o gamp. Yn ôl y cwsmeriaid, mae staff y ganolfan gyswllt yn fedrus ac yn barod iawn i helpu.

share