Mae Coleg Cambria yn un o gyfleusterau addysg bellach ac uwch mwyaf y DU, ac mae ganddo dros 34,000 o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru i gael addysg lawn-amser neu ran-amser.

 

Pwy ydyn nhw

Cafodd Coleg Cambria ei sefydlu yn 2013 ac mae ei bencadlys yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n goleg addysg bellach ac uwch sy’n cynnig cyrsiau llawn-amser a rhan-amser, prentisiaethau a hyfforddiant cyflogwr i bobl 16 oed a hŷn. Mae’n un o golegau mwyaf y DU, a chanddo dros 7,000 o fyfyrwyr llawn-amser, 27,000 o fyfyrwyr rhan-amser a thros 1,700 o aelodau o staff. Mae ganddo 6 champws ar draws y gogledd-ddwyrain yng Nglannau Dyfrdwy, Iâl, Llysfasi a Llaneurgain.

 

Beth rydym yn ei wneud

Mae PTI Cymru yn gweithredu llinell ffôn bwrpasol y gall staff Coleg Cambria ei ffonio er mwyn rhoi gwybod eu bod yn sâl. Mae’r gwasanaeth hwn yn bwysicach yn awr nag erioed oherwydd y pandemig Covid-19, ac mae’n galluogi’r staff i hysbysu’r coleg yn ddiogel ac yn effeithlon am eu habsenoldeb.

Mae pob un o asiantiaid canolfan gyswllt PTI Cymru wedi cael hyfforddiant er mwyn helpu i sicrhau bod ganddynt y sgiliau cywir i ymdrin â’r galwadau hyn a chofnodi salwch staff. Yna, caiff y wybodaeth ei rhannu â Coleg Cambria.

Mae’r contract hwn yn un enghraifft o’r modd y mae cyfleusterau ein canolfan alwadau ac asiantiaid dwyieithog ein canolfan gyswllt yn gallu darparu ein gwasanaethau i gleientiaid y tu allan i’r diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru. Mae hyblygrwydd a phroffesiynoldeb ein hasiantiaid yn sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaeth o safon eithriadol o uchel i gwsmeriaid, beth bynnag fo’r diwydiant dan sylw. Mae hynny wedi bod yn hollbwysig o safbwynt galluogi ein darpariaeth o ran gwasanaethau i ehangu ac o safbwynt diwallu anghenion cleientiaid newydd a phresennol yn y ffordd orau posibl.

share