Mae DriveTech, sy’n rhan o’r AA, yn un o ddarparwyr amlycaf cynlluniau asesu a hyfforddi a chynlluniau addysg ar gyfer gyrwyr yn y DU.

 

Pwy yw DriveTech

Mae DriveTech yn cynnig gwasanaethau asesu a hyfforddi gyrwyr mewn dros 95 o wledydd ledled y byd. DriveTech yw darparwr mwyaf cyrsiau ailhyfforddi troseddwyr yn y DU, ac mae’n cynnig gwasanaeth uniongyrchol i 12 o heddluoedd yn y DU ac yn rhoi cymorth anuniongyrchol i 34 o heddluoedd eraill drwy’r Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

Yn rhan o is-adran ‘Ymwybyddiaeth o Yrru’ DriveTech, mae PTI Cymru yn cynorthwyo i ddarparu’r cwrs ‘Eich Gwregys, Eich Bywyd’ yn Gymraeg i droseddwyr sy’n cael eu dal yn gyrru heb wisgo gwregys diogelwch. Bwriad y cwrs yw annog troseddwyr i newid eu hagwedd at ddefnyddio gwregysau diogelwch, drwy archwilio canlyniadau peidio â gwneud hynny iddyn nhw eu hunain a’r sawl sy’n teithio gyda nhw.

Gellir cwblhau’r cwrs ar-lein neu drwy ddefnyddio llawlyfr. Mae llinell uniongyrchol a phenodol PTI Cymru ar agor o 8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 8am i 3pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul er mwyn i gwsmeriaid sy’n defnyddio’r llawlyfr allu cysylltu a chwblhau’r cwrs yn Gymraeg.

Mae holl asiantiaid cyfeillgar a phroffesiynol canolfan gyswllt PTI Cymru yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn sicrhau bod gwasanaeth ardderchog yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid DriveTech. Mae’r asiantiaid hefyd wedi bod drwy’r trefniadau fetio ar gyfer staff nad ydynt yn staff heddlu, ar Lefel 3, ac maent wedi cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn cydymffurfio â gofynion DriveTech.

Mae’r asiantiaid yn dilyn polisi diogelu data DriveTech ar ddechrau pob galwad er mwyn sicrhau eu bod yn siarad â’r cwsmer iawn. Yna, gofynnir cyfres o gwestiynau amlddewis i’r cwsmeriaid. Ar ôl i’r cwsmeriaid gwblhau’r dasg, mae’r asiantiaid yn darllen adborth ynghylch y cwestiynau a atebwyd yn anghywir ac yn rhoi gwybod i’r cwsmer a yw wedi llwyddo neu fethu.

Mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, buodd PTI Cymru yn ymdrin â galwadau ychwanegol gan gwsmeriaid ar ran Drivetech, oherwydd y pwysau cynyddol a oedd ar gyfleusterau canolfan alwadau’r cwmni yn Lloegr. Cafodd tîm PTI Cymru hyfforddiant pellach er mwyn sicrhau bod y safonau uchaf posibl yn cael eu cyrraedd wrth ymdrin â’r galwadau hynny.

 

“Mae PTI Cymru yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i ni o safbwynt staff sy’n siarad Cymraeg, cyfieithiadau Cymraeg a recordiadau Cymraeg ar gyfer ymatebion ar ein system ffôn ryngweithiol. Mae’n darparu gwasanaeth prydlon a phroffesiynol sy’n hanfodol i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth rhagorol yn Gymraeg. Mae DriveTech, sy’n rhan o’r AA, yn gwerthfawrogi’n fawr ein partneriaeth â PTI Cymru – hir y parhaed”

Des Morrison, Cyfarwyddwr Contractau’r Heddlu a’r Sector Cyhoeddus yn DriveTech

share