Mae Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol, sy’n rhan o’r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd, yn wasanaeth gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau trenau ar draws y rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

 

Pwy yw Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol

Mae Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol yn ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer yr holl wasanaethau trenau i deithwyr sydd ar y rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol. Mae gwefan ac ap Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol yn cynnwys cynlluniwr taith, gwybodaeth am brisiau tocynnau a gwybodaeth fyw am amserau ymadael trenau.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

Mae PTI Cymru yn gweithredu llinell ffôn cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol. Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 7am ac 8pm bob dydd ac mae’n ymdrin â holl ymholiadau cwsmeriaid ynghylch amserlenni, tocynnau a’r gwasanaethau sydd ar gael. Rhoddir atebion mor gywir ag sy’n bosibl i ymholiadau cwsmeriaid, gan ddefnyddio’r systemau sydd ar gael gan Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol. Mae ein hasiantiaid yn cael hyfforddiant rheolaidd ynghylch sut mae defnyddio’r systemau hyn, ac mae ganddynt ddealltwriaeth dda o’r wybodaeth a ddarperir drwy’r gwasanaeth Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol.

Mae asiantiaid ein canolfan gyswllt wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid ar ran y cleient. Mae ein holl asiantiaid yn siarad Cymraeg yn rhugl ac maent yn dangos lefel uchel o allu yn y Gymraeg bob amser wrth ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid.

Yn sgîl y pandemig Covid-19, gofynnwyd i PTI Cymru ymdrin â’r galwadau nad oedd modd i ganolfan gyswllt y gwasanaeth Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol yn Mumbai ymdrin â nhw. Gan fod trefniadau wedi’u gwneud i dîm PTI Cymru weithio’n effeithiol gartref ar ddechrau’r pandemig, bu modd i ni ddarparu’n ddi-dor ein gwasanaeth arferol o safon i gwsmeriaid dros y ffôn.

At hynny, cawsom ein penodi’n ganolfan alwadau genedlaethol ar gyfer menter ‘Rheilffordd i Loches’ y gwasanaeth (menter a gaiff ei rhedeg ar y cyd â Chymorth i Fenywod a gweithredwyr trenau ar draws y DU). Mae’r cynllun yn caniatáu i unrhyw rai sy’n ffoi rhag camdriniaeth ddomestig deithio am ddim ar drenau er mwyn eu helpu i gyrraedd lloches. Mae aelodau tîm PTI wedi cael eu hyfforddi i ymdrin yn sensitif â’r galwadau hyn gan bobl sy’n chwilio am loches ac i archebu eu tocynnau trên er mwyn eu helpu i gyrraedd man diogel. Oherwydd natur dyngedfennol y cynllun, a’r achubiaeth y mae wedi’i chynnig i lawer yn ystod y pandemig Covid-19, mae’r cynllun wedi’i ymestyn hyd ddiwedd mis Mawrth 2021.

share