Cwsmeriaid Traveline Cymru yw rhai o gwsmeriaid hapusaf y wlad wrth i lefelau eu bodlonrwydd gyrraedd 97%, sy’n ganran “eithriadol”, yn ôl ei adroddiad diweddaraf.

Mae’r gwaith ymchwil, a gyflawnwyd ym mis Rhagfyr gan sefydliad annibynnol o’r enw ‘Finger on the Pulse’, yn dangos bod cwsmeriaid y cwmni’n gwerthfawrogi ei holl wasanaethau a bod ganddynt feddwl mawr ohonynt.

Dangosodd sylwadau’r cwsmeriaid fod y lefelau uchel o fodlonrwydd i’w priodoli i’r ffaith ei bod yn hawdd defnyddio’r gwasanaethau a’u bod yn hygyrch ac yn gywir, ac mae’r defnydd a wneir ohonynt ar ddyfeisiau symudol a thrwy ddulliau digidol wedi cynyddu’n aruthrol hefyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Yn ogystal, cafodd canolfan gyswllt Traveline Cymru ganmoliaeth fawr gan gwsmeriaid hŷn y cwmni. Cafodd y ganolfan gyswllt sgôr o 95%, sy’n ganran arbennig o dda ac sy’n dangos bod cwsmeriaid y cwmni wedi gwerthfawrogi platfform dwyieithog y sefydliad, y mae ei berfformiad bob amser o safon uchel.

Cafodd y gwasanaeth Rhadffôn, a reolir gan unig ganolfan gyswllt y cwmni ym Mhenrhyndeudraeth, ei ganmol hefyd am broffesiynoldeb tîm Traveline Cymru a pharodrwydd y tîm i helpu. Yn ôl y cwsmeriaid, mae’r staff yn “gymwys tu hwnt ac yn eithriadol o barod i helpu” a “does dim byd yn eu taflu oddi ar eu hechel – gallwn ofyn unrhyw beth iddynt.”

Daw’r newydd yn dilyn cyfres o lwyddiannau, gan gynnwys cynigion llwyddiannus am gontractau newydd o bwys gan DriveTech a Vibrant Nation yn ystod 2018.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Rydym yn falch o fod wedi cynnal lefel uchel tu hwnt o fodlonrwydd ymhlith ein cwsmeriaid eleni ar sail y canlyniadau eithriadol hyn. Mae aelodau ymroddgar ein tîm yn gweithio’n galed i roi blaenoriaeth i fodlonrwydd ein cwsmeriaid ac maent wrth eu bodd â’u llwyddiant parhaus.

“Rydym hefyd wrth ein bodd o weld bod ein cwsmeriaid yn hoff iawn o’n gwasanaethau digidol. Mewn oes ddigidol rydym yn ceisio sicrhau bod modd i’n cwsmeriaid gael gafael bob amser ar wybodaeth hanfodol am deithio drwy ein ap a thrwy ein gwefan ar gyfer dyfeisiau symudol. Mae gweld twf sylweddol ar draws y platfformau hyn yn arbennig o braf.

“Er bod ein sgorau i gyd yn uchel eleni, rydym yn awyddus i ystyried y sylwadau sy’n cynnig cyfleoedd i ni wella ein gwasanaethau fel y gallwn barhau i gynnig y gwasanaeth o safon eithriadol o uchel, y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl gennym erbyn hyn.”

Mae Traveline Cymru yn gwmni dielw sy’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yng Nghymru. Mae’r cwmni yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’n cynnig gwefan ddwyieithog, rhif Rhadffôn a gwasanaeth trwy gyfrwng ap.

share