Mae PTI Cymru, sef y sefydliad ymbarél sy’n gweithredu Contact Centre Cymru, wedi cael dechrau da i’r flwyddyn newydd wrth iddo ennill contractau newydd cyffrous.

Mae’r sefydliad wedi ennill dau gytundeb o bwys â DriveTech a Vibrant Nation, a bydd y contractau newydd a gaiff eu rheoli gan ganolfan gyswllt arbenigol y sefydliad yn hwb mawr i’w fusnes.

Bydd canolfan gyswllt PTI Cymru ym Mhenrhyndeudraeth yn awr yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau dwyieithog ar ran DriveTech, a bydd yn darparu cymorth hanfodol i’w ddefnyddwyr sy’n ceisio cadw lle ar gyrsiau ymwybyddiaeth o gyflymder a chyrsiau addysg i yrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth derbynfa dwyieithog ar ran Vibrant Nation, sef cwmni masnachu Cymdeithas Chwaraeon Cymru, sy’n darparu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae canolfan gyswllt y sefydliad yn darparu cymorth i lawer o gyrff ar hyn o bryd, sy’n cynnwys Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, Grŵp Kier, Nextbikes a Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth PTI Cymru ei hun i’r cyhoedd.

Dywedodd Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru, ei bod yn falch iawn o allu ychwanegu’r contractau newydd hyn at gyfrifoldebau’r cwmni.

Meddai: “Rydym wrth ein bodd o gael y cyfle i weithio gyda DriveTech a Vibrant Nation, ac mae ein henw da am ragoriaeth a gwasanaeth o safon i gwsmeriaid wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu perthynas gadarn ag eraill ledled Cymru.

“Bu 2018 yn flwyddyn wych i ni, ac mae gallu dechrau’r flwyddyn newydd ar nodyn mor gadarnhaol yn eisin ar y gacen. Mae’r ffaith ein bod wedi ennill y contractau newydd hyn yn tystio i waith caled ein tîm ymroddgar, sydd bob amser yn gwneud mwy nag sydd raid i gynorthwyo ein cwsmeriaid, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rydym mewn sefyllfa dda i gyrraedd y safonau uchaf o safbwynt gwasanaeth i gwsmeriaid, ac rydym yn falch dros ben bod y busnesau rhagorol hyn wedi rhoi eu gofal cwsmer yn ein dwylo ni.”

Dywedodd Des Morrison, Cyfarwyddwr Contractau’r Heddlu a’r Sector Cyhoeddus yn DriveTech, ei fod “yn falch iawn” o gael gweithio gyda’r sefydliad.

Meddai: “Mae’r enw ardderchog sydd gan PTI Cymru, a’i ddull proffesiynol a chyfeillgar o ddarparu gwasanaeth, yn cyd-fynd yn berffaith â’n dull ni o sicrhau rhagoriaeth er budd ein cwsmeriaid. Rydym yn gweithio’n galed i gynnig gwasanaeth ardderchog i bob un o’n cwsmeriaid, ac mae ein partneriaeth â PTI Cymru yn sicrhau y bydd ein cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg yn gallu cael cymorth o’r radd flaenaf.”

Cafodd agwedd broffesiynol y cwmni ei chanmol hefyd gan Josephine Pakes, Rheolwr Cymorth Busnes yn Vibrant Nation.

Meddai: “Dewisodd Vibrant Nation, sef cwmni masnachu Cymdeithas Chwaraeon Cymru, weithio gyda PTI Cymru er mwyn ategu ein gwasanaeth dwyieithog ar gyfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Roeddem yn wirioneddol awyddus i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu siarad â pherson, yn Gymraeg neu yn Saesneg, pan fo’n llinellau yn brysur. Rydym o’r farn bod y gwasanaeth hwn yn un y mae ein cleientiaid yn ei werthfawrogi’n fawr, ac mae’n sicrhau nad ydym yn colli galwad. Mae PTI Cymru wedi diwallu ein hanghenion i gyd â’i wasanaeth dwyieithog ardderchog a’i dîm proffesiynol a chyfeillgar.”

share