Mae Traveline Cymru “yn falch dros ben” o lwyddiant ei Gyfarwyddwr, Jo Foxall, sydd wedi ennill gwobr fusnes sy’n cydnabod ei bod yn “gyfarwyddwr ymroddgar”.

 

Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr, Jo Foxall, i’r brig yn y categori Cyfarwyddwr Ifanc yng Ngwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, sy’n wobrau o fri, gan achub y blaen ar nifer o Gyfarwyddwyr ardderchog eraill o bob cwr o Gymru.

Cafodd seremoni wobrwyo Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, sy’n clodfori “busnesau ac arweinwyr gorau Cymru”, ei chynnal ddydd Gwener 17 Mai ym Maes Criced Gerddi Sophia, a chafodd ei noddi gan Ysgol Busnes Caerdydd.

Roedd Cyfarwyddwyr o ddau gwmni technoleg ‘blaenllaw’ yng Nghymru ymhlith yr 13 o Gyfarwyddwyr Cymreig a gafodd glod am eu ‘gwaith rhagorol’ yng Ngwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn 2019 Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, lle’r oedd Ysgrifennydd Masnach Llywodraeth y DU, y Gwir Anrhydeddus Liam Fox AS, ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, yn bresennol.

Meddai Jo Foxall: “Rwyf wrth fy modd o fod wedi dod i’r brig yn y categori Cyfarwyddwr Ifanc yng Ngwobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

“Ar ôl dechrau gweithio gyda PTI Cymru mewn swydd is, dringais yr ysgol yn raddol cyn cymryd yr awenau ym mis Gorffennaf 2017.

“Er bod y wobr hon yn llwyddiant personol, gallaf ei phriodoli i’m gwaith ac i’r profiadau yr wyf wedi’u cael gyda PTI Cymru. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y llwyddiant hwn hefyd yn codi proffil y sefydliad sy’n gweithio ar brosiectau arloesol, blaengar a chynhwysol.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol llwyddiannus a chyffrous.”

Meddai Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru: “Er gwaetha’r ffaith ein bod mewn cyfnod heriol tu hwnt, ac er gwaethaf yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag effaith Brexit ar fyd busnes, mae cyfarwyddwyr ledled Cymru yn llwyddo i arwain ac ysbrydoli eu staff gan gyflenwi cynnyrch neu ddarparu gwasanaethau ar yr un pryd sy’n wirioneddol arloesol.”

Mae Traveline Cymru yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Rhian Richards jamjar PR ar 01446 771265 neu rhian@jamjar.agency

share