Nod Gwobrau Arts & Business Cymru 2019, a gyflwynwyd am y 25ain flwyddyn eleni, yw cydnabod “creadigrwydd a rhagoriaeth” mewn partneriaethau rhwng byd busnes a’r celfyddydau.

 

Enillodd Traveline Cymru Wobr y Celfyddydau a Busnes Bach am ei waith gyda Focus Wales a Hijinx. Roedd y prosiect, drwy gyfleoedd i wirfoddoli, yn targedu pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth y celfyddydau oherwydd eu hamgylchiadau ariannol.

Meddai Jo Foxall: “Rydym yn falch dros ben o fod wedi ennill gwobr ac rydym yn gobeithio y bydd yn codi proffil Traveline Cymru fel sefydliad sy’n gweithio ar brosiectau arloesol, blaengar a chynhwysol.

“Rydym yn edrych ymlaen at greu partneriaethau arloesol eraill ac at weithio ar brosiectau llwyddiannus a chyffrous yn y dyfodol.”

Busnes Cymreig yw Traveline Cymru sy’n cyflogi 42 o bobl yng nghanol Caerdydd ac ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd.

Mae cwmnïau o bob maint ac o bob rhan o Gymru yn cystadlu i geisio ennill y gwobrau “o fri” hyn a gyflwynwyd mewn seremoni ddydd Iau 11 Gorffennaf yng Nghanolfan y Mileniwm.

Meddai Rachel Jones, Prif Weithredwr Arts & Business Cymru: “Unwaith eto, mae ein partneriaid busnes yn dangos eu cred ym mhwysigrwydd a grym y celfyddydau, ac roedd amrywiaeth yr enwebiadau a gafwyd ar gyfer y Gwobrau eleni’n arwydd clir o effeithiolrwydd partneriaethau â’r celfyddydau ar gyfer busnesau yng Nghymru.

“Mae Arts & Business Cymru yn falch o chwarae rhan yn y gwaith o feithrin cynifer o brosiectau arloesol sy’n helpu i greu cymdeithas gyfoethocach. Yn y seremoni flaenllaw hon, mae’n fraint wirioneddol gallu clodfori’r goreuon ymhlith y sawl sy’n cydweithio ar draws amryw sectorau.”

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Rhian Richards jamjar PR ar 01446 771265 neu rhian@jamjar.agency

share