Mae Trafnidiaeth Cymru o’r farn bod hwn yn “gam mawr arall at greu rheilffyrdd gwell ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”

 

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £40 miliwn yn ei wasanaethau trên pellter hir, gan ddechrau gyda’i fflyd o drenau Dosbarth 175. Gadawodd y trên Dosbarth 175 gorffenedig cyntaf y llinell gynhyrchu yng Nghanolfan Dechnoleg Alstom yn Widnes yn Sir Gaer yn ystod yr wythnos a oedd yn cychwyn ar 15 Gorffennaf.

Bydd cwsmeriaid yn awr yn gallu mwynhau defnyddio pyrth USB, socedi ar gyfer plygiau a thoiledau newydd tra byddant yn teithio ar y fflyd o drenau Dosbarth 175. Bydd gan y trenau orchuddion newydd ar eu seddau a charpedi newydd, a bydd tu allan y trenau’n adlewyrchu brand a lliwiau Trafnidiaeth Cymru. Bydd pob un o’r 27 o drenau sydd yn y fflyd o drenau Dosbarth 175 yn elwa o’r buddsoddiad, a bydd yr un gwaith yn cael ei wneud ar y trenau eraill a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru.

Meddai Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “Mae’n wych gallu cyflawni’r gwelliannau hyn ar gyfer ein cwsmeriaid, y mae’n iawn iddynt ddisgwyl eu gweld ar rwydwaith rheilffyrdd modern.

“Rydym yn gwybod bod gallu teithio mewn trenau cyffyrddus a gwefru dyfeisiau wrth fynd o le i le yn hollbwysig i’n cwsmeriaid, p’un a ydynt yn teithio am 20 munud neu am bedair awr a ph’un a ydynt yn teithio at ddibenion busnes neu hamdden.

“Er ein bod wrthi’n buddsoddi dros £800 miliwn mewn trenau newydd sbon, mae’r trenau hynny’n cymryd amser i’w cynhyrchu ac rydym am i’n cwsmeriaid fwynhau profiad cyffyrddus yn syth.

“Felly, mae’r buddsoddiad pwysig hwn yn gam mawr arall at greu rheilffyrdd gwell ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”

Mae’r buddsoddiad mewn trenau Dosbarth 175 yn cyfateb i £6.7 miliwn, a disgwylir iddo ddigwydd drwy gydol 2020. Bydd gweddill y £40 miliwn yn cael ei wario ar draws gweddill fflyd Trafnidiaeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf.

Meddai Piers Wood, Rheolwr Gyfarwyddwr Cerbydau a Gwasanaethau, Alstom UK: “Mae’r trenau Dosbarth 175 wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, a diolch i’n tîm gwych yn Widnes byddant mewn cyflwr arbennig o dda ac yn ailddechrau gweithredu cyn pen 12 mis. Mae gan Widnes botensial aruthrol i dyfu ac i fod yn ganolbwynt y diwydiant rheilffyrdd yng ngogledd-orllewin Lloegr a’r DU.”

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

share