Mae PTI Cymru “wrth ei fodd” o fod wedi ennill gwobr bwysig sy’n cydnabod ei wasanaethau i drafnidiaeth yng Nghymru.

 

Cafodd Traveline Cymru, sef y corff ambarél sy’n rheoli gwasanaethau dwyieithog i gwsmeriaid, sy’n cynnig cymorth o ran marchnata ac sy’n darparu gwasanaethau data am fysiau, gwasanaethau cyfieithu a mwy, gan gynnwys gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, noson lwyddiannus yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru nos Wener yng ngwesty Holland House Mercure yng Nghaerdydd.

Enillodd PTI Cymru y Wobr Gwasanaethau i’r Diwydiant Trafnidiaeth, sy’n cydnabod “perfformiad rhagorol sefydliad sydd wedi darparu gwasanaethau ardderchog yn gyson i’r sector trafnidiaeth.”

Nod Gwobrau Trafnidiaeth Cymru yw “dathlu rhagoriaeth ym maes trafnidiaeth yng Nghymru” trwy gydnabod “cyflawniadau neilltuol y genedl ar draws holl sectorau’r diwydiant”.

Roedd PTI Cymru hefyd yn noddi’r categori Gofal Cwsmer ar y noson, a enillwyd gan Euro Commercials.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y wobr hon ac rydym yn gobeithio y bydd yn codi proffil PTI Cymru fel sefydliad sy’n gweithio ar brosiectau arloesol, dyfeisgar a chynhwysol ym maes trafnidiaeth.

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae PTI Cymru wedi bod yn gweithio i ddatblygu nifer o brosiectau ac mae wedi darparu gwasanaeth sy’n gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

“Mae ein sefydliad yn ymfalchïo yn y rhan hanfodol sydd ganddo i’w chwarae ym mywydau pobl, gan helpu i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i’r sawl y mae arnynt ei hangen.

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hollbwysig i gynifer o bobl ar draws Cymru, ac rydym yn hynod falch o fod yn gweithio mewn diwydiant sy’n cael cymaint o effaith ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael blwyddyn lwyddiannus arall ac rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod am ein gwaith caled a’n hymroddiad i wella gwasanaethau i’r diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru, yn enwedig eleni wrth i ni ddathlu 20 mlynedd ers ein sefydlu.”

share