Mae tîm data PTI Cymru yn creu ac yn diweddaru gwybodaeth am wasanaethau bysiau ar gyfer Cymru gyfan. Caiff y data hwn ei ddarparu i Traveline Cymru a systemau eraill sy’n rhoi gwybodaeth am wasanaethau bysiau.

 

Mae’r tîm data yn cael gafael ar wybodaeth ac yn creu gwybodaeth am wasanaethau bysiau ledled Cymru, a gaiff ei storio ar ffurf ffeiliau TransXchange (TXC), ac mae’n diweddaru’r wybodaeth honno yn barhaus. Mae’r ffeiliau dan sylw’n ddata XML ac maent yn cynnwys y wybodaeth berthnasol i greu amserlenni, mapiau llwybrau, lleoliadau arosfannau bysiau a data cysylltiedig, fel y gwnaed ar gyfer Traveline Cymru. Gellir defnyddio ein ffeiliau data’n sail i systemau eraill ar gyfer gwybodaeth am wasanaethau bysiau, gan osgoi’r angen i ail-greu’r data mewn fformatau eraill.

Mae pob aelod o’r tîm data wedi’u hyfforddi i ddefnyddio meddalwedd Omni ar gyfer creu amserlenni, mapio pob llwybr, creu data am brisiau tocynnau a diweddaru NaPTAN a data am ardaloedd. Mae’r tîm yn siarad yn rheolaidd â gweithredwyr ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y data gystal ag y gall fod.

 

Dyma enghreifftiau o fannau lle caiff ein data ei ddefnyddio ar hyn o bryd:

  • Sgriniau amseroedd ymadael wrth arosfannau bysiau
  • Systemau gwybodaeth amser real
  • Set ddata genedlaethol Traveline
  • Amryw ddatblygiadau’n ymwneud ag apiau
  • Rhaglenni ciosg a gwasanaethau ar y we
  • Offer dadansoddi data
  • Systemau wedi’u teilwra, e.e. myndibobmanfelmyfyriwr
  • Achosion lle caiff ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn iddynt ei fewnforio i’w hoffer nhw.

Maent yn ffeiliau data cod agored a weithredir dan gytundeb data agored .gov, a gellir darparu’r ffeiliau i ddatblygwyr trydydd parti er mwyn iddynt gael eu defnyddio mewn systemau wedi’u teilwra.

Rydym yn bwriadu ehangu’r gwasanaethau a gynigir gennym yn y dyfodol, ac rydym wrthi’n gweithio ar systemau a fydd yn ein galluogi i gynyddu’r hyn y gallwn ei gynnig i bartïon eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn. Rydym yn barod i weithio gyda datblygwyr sydd am gael gafael ar wybodaeth am fysiau ar ran ein rhanddeiliaid, ac rydym yn barod i gynnig cymorth ynghylch technolegau a gwasanaethau cyfarwydd neu newydd. Gallwch gysylltu â ni yma i gael gwybod mwy am sut y gallwch gael gafael ar y wybodaeth hon.

 

Os hoffech wybod mwy am y ganolfan gyswllt ddwyieithog, y cymorth marchnata a’r gwasanaethau wedi’u teilwra y gallwn eu cynnig i’n cleientiaid o fewn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus a’r tu allan iddo, cymerwch olwg ar ein tudalen gwasanaethau neu mae croeso i chi gysylltu â ni trwy’r ffurflen berthnasol.

share