Mae’r asiantiaid ymroddedig yn ein canolfan gyswllt yn y gogledd yn gweithredu systemau proffesiynol a dwyieithog wedi’u teilwra ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran sefydliadau ledled Cymru a’r DU.
Mae’r asiantiaid ymroddedig yn ein canolfan gyswllt yn y gogledd yn gweithredu systemau proffesiynol a dwyieithog wedi’u teilwra ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran sefydliadau ledled Cymru a’r DU.
Mae canolfan gyswllt ddwyieithog PTI Cymru yng nghanol tref Penrhyndeudraeth yn y gogledd. Gan ein bod mewn cymuned Gymraeg ei hiaith mae pob un o asiantiaid ein canolfan gyswllt yn gallu ateb galwadau’n rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg gan ehangu rhychwant y gwasanaethau y gallwn eu cynnig i’n cleientiaid.
Mae pob un o’n hasiantiaid yn cael hyfforddiant yn rheolaidd ynghylch sut i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid ac ymdrin â galwadau, er mwyn sicrhau eu bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl ar ran ein cleientiaid. Rydym hefyd yn cydweithio â’n cleientiaid i sicrhau bod gan ein hasiantiaid y wybodaeth a’r sgiliau i weithredu eu systemau penodol nhw ar gyfer rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid.
Mae gwasanaethau ein canolfan gyswllt yn cynnwys y canlynol ymhlith eraill:
Yn dilyn ehangu ein gwasanaethau a nifer ein cleientiaid yn ddiweddar, mae swyddfa wedi’i hadnewyddu gyferbyn â’n safle presennol ym Mhenrhyndeudraeth. Bydd y swyddfa honno’n ein galluogi i barhau i ddatblygu’r gwasanaethau a gynigir gennym a dechrau ar brosiectau newydd cyffrous gyda chleientiaid o bob maint a chapasiti, sy’n awyddus i lenwi bwlch yn yr arlwy y mae eu busnes yn ei gynnig ar hyn o bryd.
Gallwch gysylltu â ni yma os hoffech wybod mwy am y gwasanaethau ‘canolfan gyswllt’ a gynigir gennym, a’r modd y gall y gwasanaethau hynny gyd-fynd â’ch dull chi o ddarparu gwasanaethau.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth marchnata ar-lein a thrwy ddulliau eraill, a gallwn deilwra’r gwasanaethau a gynigir gennym fel eu bod yn gweddu i anghenion unigol ein cleientiaid. Ewch i’n tudalen gwasanaethau wedi’u teilwra i weld beth y gallwn ei wneud i chi.