Mae Nextbike – y gwasanaeth rhannu a llogi beic, sy’n dipyn o ffenomenon erbyn hyn – ar fin dod yn fwy hygyrch fyth yn ein prifddinas.

 

Ers 1 Mai gall cwsmeriaid wasgaru cost eu haelodaeth flynyddol ar draws 12 mis, yn hytrach na thalu’r ffi gyfan ymlaen llaw. Mae hynny’n cyfateb i 12 rhandaliad misol o £5, sy’n gyfanswm o £60 ar gyfer y flwyddyn.

Er nad yw’r gost dan y drefn newydd yn wahanol i’r ffi bresennol, bwriad y strwythur newydd ar gyfer aelodaeth flynyddol yw sicrhau bod y trefniadau ar gyfer talu am y cynllun yn fwy ymarferol a fforddiadwy. At hynny, bydd aelodaeth fisol newydd am £10 ar gael i’r sawl nad ydynt am ymrwymo i’r cynllun blynyddol.

I’r sawl sydd eisoes wedi talu eu haelodaeth flynyddol drwy dalu’r ffi gyfan ymlaen llaw, gellir parhau i fanteisio ar yr aelodaeth honno tan y dyddiad y daw i ben (sef union flwyddyn ar ôl talu’r aelodaeth).

Mae gan y cynllun 215,000 o gwsmeriaid ar draws y DU yn barod, a disgwylir y bydd yn tyfu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Gobeithir y bydd y newid hwn i strwythur y ffi o gymorth i annog cwsmeriaid, beth bynnag fo’u cefndir economaidd, i ddefnyddio gwasanaethau Nextbike.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr Nextbike UK, Krysia Solheim, mai’r nod yw defnyddio’r strwythur diweddaraf i gynnig dulliau cynaliadwy o deithio i gynulleidfaoedd newydd:

O wrando ar adborth ein cwsmeriaid, rydym yn gwybod bod talu ffi o £60 ymlaen llaw am aelodaeth flynyddol yn atal rhai pobl rhag ymaelodi. Ein nod yn y pen draw yw gwella ansawdd bywyd yn ein rhanbarthau drwy drawsnewid y modd y mae pobl yn symud o le i le ynddynt – waeth beth fo’u hamgylchiadau economaidd. Er mwyn cyrraedd y nod, rhaid i ni ystyried sefyllfaoedd ariannol defnyddwyr a darparu ar gyfer cynifer o bobl ag sy’n bosibl.”

Mae beiciau Nextbike ar gael i’w llogi 24 awr y dydd, a gellir cael gafael arnynt mewn amryw fannau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau; mae’r mannau hynny’n cynnwys gorsafoedd llogi Nextbike a’r lleoliadau lle mae’r beiciau wedi’u gadael gan ddefnyddwyr blaenorol (gellir gweld y lleoliadau hynny ar wefan ac ar ap Nextbike).

Mae’r datblygiad hwn yn dilyn y newyddion diweddar y gallai rhai o feddygon Caerdydd ragnodi 6 mis o wasanaethau llogi beic am ddim i gleifion y mae angen iddynt wneud mwy o weithgarwch corfforol. Bydd y cleifion hynny’n cael cod a fydd yn eu galluogi i logi beic am ddim am 30 munud y dydd.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Rachel Jones trwy Business News Wales

share