Gan ddechrau ar 20 Mai 2019, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gwasanaethau bob awr rhwng y gogledd a Sir Gaer i Lerpwl.

 

Mae hynny’n dilyn ailagor trac Halton Curve, sef rheilffordd fer sy’n cysylltu trac y gogledd â thrac prif reilffordd arfordir gorllewin Lloegr.

Bydd 215 o wasanaethau newydd yr wythnos yn gweithredu’n awr. Maent yn cynnwys gwasanaethau bob awr o Gaer i orsaf Lime Street Lerpwl, a fydd hefyd yn galw yn Helsby, Frodsham, Runcorn a gorsaf South Parkway Lerpwl (ar gyfer pobl sy’n teithio i Faes Awyr John Lennon). Yn ogystal, bydd dau wasanaeth uniongyrchol y dydd o orsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol a bydd un gwasanaeth uniongyrchol o Lerpwl i Wrecsam.

Bydd y gwasanaethau newydd hyn yn gwella cysylltiadau yn yr ardal ac yn rhoi hwb economaidd o bwys iddi; maent hefyd wedi arwain at greu 30 o swyddi newydd.

Roedd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn bresennol yn y dathliad i lansio’r gwasanaethau newydd hyn. Gadawodd y gwasanaeth cyntaf orsaf Wrecsam Cyffredinol am 6:35am fore dydd Llun (20 Mai).

Meddai Ken Skates: “Rwy’n falch iawn o lansio gwasanaethau rheilffyrdd newydd Trafnidiaeth Cymru rhwng y gogledd a Sir Gaer i Lerpwl.

“Bob dydd mae miloedd o gymudwyr yn teithio rhwng y gogledd a gogledd-orllewin Lloegr, sy’n golygu bod cysylltiadau rheilffyrdd gwych yn hanfodol i economi’r naill ochr a’r llall i’r ffin. Trwy ddarparu 215 o wasanaethau newydd yr wythnos, byddwn yn cryfhau cysylltiadau â’n cymdogion ar draws y ffin, a fydd yn creu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol pwysig. At hynny, bydd gwella hygyrchedd yn rhoi hwb i’n cymunedau lleol ac i’r sector twristiaeth yn y rhanbarth, gan ddenu mwy o ymwelwyr i Gymru.

“Hoffwn ddiolch i bob partner sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiect hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau i feithrin ein perthynas waith agos er budd pawb sy’n defnyddio’r rheilffyrdd.”

Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £5 biliwn er mwyn trawsnewid y sector trafnidiaeth ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, ac rydym yn llawn cyffro o weld y gwasanaethau newydd hyn sy’n cysylltu’r gogledd a Sir Gaer â Lerpwl yn cael eu cyflwyno.

“Bydd yn hwb economaidd o bwys i’r ardal, ac mae’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu 215 o wasanaethau newydd sbon yr wythnos yn ategu ein hymrwymiad i greu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n well i bawb.

“Roedd y prosiect hwn yn golygu llawer iawn o waith caled, ymroddiad a buddsoddiad gan nifer fawr o unigolion ac asiantaethau, ac mae’n dangos beth y gellir ei gyflawni drwy gydweithio ag eraill.

“Rydym yn nesáu at ein pen-blwydd yn chwe mis oed yn Trafnidiaeth Cymru, ac mae hon yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni barhau i wireddu ein gweledigaeth.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

share