Cyhoeddwyd y bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn gallu cludo 6,500 yn rhagor o deithwyr yr wythnos o fis Rhagfyr eleni ymlaen.

At hynny, bydd trenau ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau er mwyn gwella capasiti gwasanaethau.

Mae’r gwelliannau sydd yn yr arfaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd mwy o drenau pedwar cerbyd i’w gweld ar reilffyrdd y Cymoedd yn ystod oriau brig. Bydd hynny, ynghyd â newidiadau eraill i gerbydau, yn golygu y bydd modd i 6,500 yn rhagor o deithwyr ddefnyddio’r gwasanaethau bob wythnos.
  • Bydd cerbydau rhyngddinesig Math 4 wedi’u hadnewyddu i’w gweld ar rai gwasanaethau rhwng y gogledd a Manceinion, sy’n golygu y bydd y gwasanaethau hynny’n fwy hygyrch.
  • Bydd trenau Dosbarth 170 sydd â mwy o le ac sydd â thoiledau hygyrch, systemau gwybodaeth, socedi trydan a Wi-Fi yn cael eu defnyddio rhwng Cheltenham a Maesteg a rhwng Caerdydd a Glynebwy.

Ers i Trafnidiaeth Cymru ddod yn gyfrifol am y fasnachfraint reilffyrdd ym mis Hydref 2018, mae adborth gan deithwyr wedi amlygu’r angen i wella gwytnwch a chapasiti’r fflyd ar draws y rhwydwaith.

Er mwyn gwneud hynny, bydd trenau Pacer yn dal i gael eu defnyddio am gyfnod byr yn ystod 2020. Yna, ochr yn ochr â’r trenau a gaiff eu tynnu gan locomotif Dosbarth 37, bydd y trenau Pacer yn cael eu tynnu oddi ar y rheilffyrdd yn raddol a bydd trenau Dosbarth 769, sy’n fwy modern a chyffyrddus, yn cymryd eu lle yn y flwyddyn newydd.

Bydd Porterbrook, sef cyflenwr y trenau Dosbarth 769 a fydd yn barod yn hwyrach na’r disgwyl, yn darparu trenau Dosbarth 153 ychwanegol nes y bydd y trenau Dosbarth 769 yn barod i’w defnyddio.

 

Meddai Mary Grant, Prif Weithredwr Porterbrook:

“Mae rhai o gynlluniau Trafnidiaeth Cymru yn dibynnu ar ein trenau Dosbarth 769 arloesol, a fydd yn cyrraedd y rheilffyrdd yn hwyrach na’r disgwyl. Hoffem ymddiheuro am hynny ac rydym wrthi’n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a’n cadwyn gyflenwi i sicrhau bod y trenau hynny’n cael eu darparu cyn gynted ag sy’n bosibl.”

 

Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae ein hymchwil ymhlith cwsmeriaid yn dangos bod y gallu i eistedd neu sefyll yn gyffyrddus ar drên yn un o brif flaenoriaethau llawer o bobl, felly rydym yn gobeithio y bydd ein cwsmeriaid yn croesawu’r cynlluniau a fydd yn cynyddu capasiti’n sylweddol ym mis Rhagfyr.

Rydym wedi canolbwyntio bob amser ar wireddu dymuniadau ein cwsmeriaid, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu mwy o gapasiti, sy’n brif flaenoriaeth iddynt. Rhaid i ni barhau i ymateb i anghenion ein holl gwsmeriaid, hyd yn oed os yw hynny’n golygu newid ein cynlluniau.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

share