Mae canolfan gyswllt yn y gogledd wedi ennill contract newydd gyda’r gwasanaeth Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol, ar ôl iddi addasu ei busnes yn sydyn er mwyn galluogi ei staff i ymdrin â galwadau gartref.

 

Pan ddechreuodd COVID-19 ymledu aeth PTI Cymru, sydd â’i swyddfa ym Mhenrhyndeudraeth, ati’n sydyn i alluogi ei dîm o 28 o staff i weithio gartref. O ganlyniad, enillodd y cwmni’r gwaith newydd hwn sy’n golygu y bydd yn ymdrin dros dro ag ymholiadau cyffredinol o bob cwr o’r DU, yn ogystal ag ymholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, tra bydd canolfan alwadau National Rail yn Mumbai yn India ar gau.

At hynny mae PTI Cymru wedi’i benodi yn ganolfan gyswllt genedlaethol ar gyfer y rhaglen ‘Rheilffordd i Loches’, sef cynllun rhwng gweithredwyr trenau a Chymorth i Fenywod, sy’n caniatáu i unrhyw un sy’n mynd i loches er mwyn ffoi rhag camdriniaeth ddomestig yn ystod y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws deithio am ddim ar drenau.

Ers i ganolfan gyswllt ddwyieithog PTI Cymru gael ei sefydlu yn 2005, mae wedi ymdrin â thros dair miliwn o alwadau ar ran ei chleientiaid sy’n cynnwys Traveline Cymru, fyngherdynteithio, Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, NextBike UK a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd y ganolfan gyswllt sgôr o 94% ar gyfer lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid yn ddiweddar ac mae’n darparu gwasanaeth i gwsmeriaid, gwasanaeth ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, gwasanaeth derbynfa a gwasanaeth ymdrin â chwynion dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru: “Oherwydd ein cynllun cadarn ar gyfer parhad busnes, roeddem mewn sefyllfa i weithredu’n sydyn pan ddaeth bygythiad y coronafeirws i’n gwlad yn amlwg, ac aethom ati i drefnu bod modd i’n tîm weithio o bell.

“Mae pob aelod o dîm ein canolfan gyswllt yn gallu gweithio gartref ac rydym yn ymdrin â galwadau’n ôl yr arfer ar ran ein cleientiaid niferus. Mae’n bosibl bod yna fusnesau eraill sy’n ei chael yn anodd cynnal eu gwasanaethau ffôn oherwydd effaith y coronafeirws, a byddem yn croesawu’r cyfle i’w cynorthwyo yn ystod y cyfnod hwn.

“Roeddem wrth ein bodd o ennill y gwaith newydd hwn, ac rwy’n falch iawn o aelodau’r tîm ac o’r modd y maent wedi addasu mor sydyn a phroffesiynol i’r ffordd newydd yma o weithio. Rydym hefyd yn falch dros ben o fod yn rhan o’r rhaglen ‘Rheilffordd i Loches’, sy’n cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”

 

Mae PTI Cymru yn sefydliad ymbarél sy’n gallu rheoli gwasanaeth dwyieithog i gwsmeriaid, sy’n cynnig cymorth o ran marchnata ac sy’n darparu gwasanaethau data am fysiau a gwasanaethau cyfieithu. Yn 2019, enillodd y sefydliad y Wobr Gwasanaethau i’r Diwydiant Trafnidiaeth yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru a gyflwynwyd am y tro cyntaf y flwyddyn honno.

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid ffonio jamjar ar 01446 771265  

Delwedd: Women’s Aid

share