Mae ein canolfan gyswllt ddwyieithog ym Mhenrhyndeudraeth wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt y DU eleni, sy’n wobrau o fri.

 

Mae PTI Cymru (sy’n masnachu dan yr enw Traveline Cymru) wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Canolfan Gyswllt y Flwyddyn eleni, diolch i’w wasanaeth o safon i gwsmeriaid a’r twf yn nifer ei gleientiaid drwy gydol 2020/21, er gwaetha’r heriau a ddaeth yn sgil y pandemig coronafeirws.

Ers ei sefydlu yn 2005, mae canolfan gyswllt ddwyieithog PTI Cymru wedi ymdrin â thros dair miliwn o alwadau ar ran ei chleientiaid presennol sy’n cynnwys Traveline Cymru, Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig llwyddodd tîm y ganolfan gyswllt, sy’n cynnwys 34 aelod o staff, i ennill un ar ddeg o gleientiaid newydd uchel eu proffil y mae Traveline UK, Cadw a Chwaraeon Cymru yn eu plith.

Mae twf parhaus y ganolfan yn cyd-fynd â’i gallu i gynnig gwasanaeth o safon i gwsmeriaid trwy ei gwasanaethau ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, ei gwasanaethau derbynfa a’i gwasanaethau ymdrin â chwynion dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Ddechrau 2020, roedd lefel bodlonrwydd cwsmeriaid y sefydliad yn 94% ac roedd lefel bodlonrwydd cyffredinol cwsmeriaid â’r wefan yn 81%, diolch i barodrwydd y staff i helpu a gallu’r sefydliad i ddarparu gwybodaeth.

Mae cyflawniadau’r ganolfan gyswllt yn fwy trawiadol fyth o gofio’r pandemig COVID-19. Cyn pen wythnos wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheolau’r cyfnod clo, gofynnwyd i dimau ar draws y cwmni weithio gartref er mwyn sicrhau eu bod nid yn unig yn gallu parhau i gynnig gwasanaeth o safon a diweddariadau hollbwysig i’w cwsmeriaid ond eu bod hefyd yn gallu gofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain. Cafodd 100,000 o bobl ddiweddariadau ynghylch teithio yn ystod y cyfnod clo a rhannwyd gwybodaeth am wasanaethau hanfodol ac am ddiogelwch er mwyn sicrhau bod gweithwyr allweddol a phobl eraill yr oedd angen iddynt deithio yn gallu gwneud hynny’n hyderus ac yn ddiogel.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr PTI Cymru, ar ôl clywed bod y ganolfan gyswllt wedi cyrraedd y rhestr fer:

“Ar ôl blwyddyn gythryblus, mae clywed bod y tîm o 34 aelod o staff yn ein canolfan gyswllt wedi cyrraedd y rhestr fer ymhlith goreuon y DU yn golygu cymaint i ni. Yn ogystal â chadarnhau mor galed y mae ein staff yn gweithio, mae hefyd yn pwysleisio ein hymrwymiad i ddarparu adnodd heb ei ail i bobl Cymru a’n cleientiaid yn ystod cyfnod mor heriol.

“Hoffwn ddiolch i’r beirniaid am gydnabod ein hymrwymiad parhaus i gynorthwyo ein cleientiaid ar draws y DU, ac edrychwn ymlaen at gael mynd i’r seremoni wobrwyo yn nes ymlaen yn y flwyddyn.”

 

Caiff PTI Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn 1999 er mwyn darparu gwasanaeth Traveline yng Nghymru. Erbyn hyn, mae ganddo lu o wasanaethau eraill i’w cynnig sy’n cynnwys y gwasanaeth canolfan gyswllt fasnachol o safon, cymorth o ran marchnata, gwasanaethau data ynghylch bysiau a gwasanaethau cyfieithu ledled Cymru a’r DU.

 

Dylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau at Hannah Young yn jamjar drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio hannah@jamjar.agency

share