Polisi Preifatrwydd

Croeso i bolisi preifatrwydd PTI Cymru.

 

Rydym yn gwmni sydd wedi’i gorffori yng Nghymru a Lloegr. Rhif y cwmni yw 03830335 a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig yw Cardiff City Transport Services Ltd, Sloper Road, Lecwydd, Caerdydd, De Morgannwg, CF11 8TB. Gallwch weld rhagor o wybodaeth amdanom yma.

Mae’r ddogfen hon (ein “hysbysiad preifatrwydd”) yn darparu gwybodaeth ynghylch sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol ynghylch yr unigolion yr ydym yn ymwneud â nhw. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ynghylch yr hawliau sydd gan unigolion yng nghyswllt eu gwybodaeth bersonol ac amryw faterion eraill sy’n ofynnol dan y gyfraith diogelu data.

Yn benodol, mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn darparu gwybodaeth i unigolion ynghylch sut y gallant wrthod rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eu gwybodaeth bersonol, sut y gallant dynnu’n ôl unrhyw ganiatâd y maent wedi’i roi i ni brosesu eu gwybodaeth bersonol, a sut y gallant gwyno.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys yr adrannau canlynol:

  • Gwybodaeth bwysig a phwy ydym ni
  • Y data yr ydym yn ei gasglu amdanoch
  • Sut yr ydym yn cael eich data personol
  • Sut yr ydym yn defnyddio eich data personol
  • Datgelu eich data personol
  • Trosglwyddiadau rhyngwladol
  • Cadw data
  • Eich hawliau cyfreithiol

 

GWYBODAETH BWYSIG A PHWY YDYM NI

Nod y polisi preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi ynghylch sut y mae PTI Cymru yn casglu ac yn prosesu eich data personol wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon, gan gynnwys unrhyw ddata y gallech fod yn ei roi i ni drwy’r wefan pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy ein gwasanaeth ebost ar gyfer ymholiadau neu drwy ffurflenni adborth.

Nid yw’r wefan hon ar gyfer plant, ac nid ydym yn casglu’n fwriadol unrhyw ddata sy’n ymwneud â phlant.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y polisi preifatrwydd hwn ar y cyd ag unrhyw bolisi preifatrwydd arall neu bolisi prosesu teg a allai gael eu darparu gennym ar achlysuron penodol pan fyddwn yn casglu neu’n prosesu data personol amdanoch, fel eich bod yn hollol ymwybodol o sut a pham yr ydym yn defnyddio eich data. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ychwanegol at bolisïau preifatrwydd a hysbysiadau eraill, ac ni fwriedir iddo ddisodli’r dogfennau hynny.

RHEOLYDD DATA

PTI Cymru Ltd yw’r rheolydd sy’n gyfrifol am eich data personol (yn y polisi preifatrwydd hwn cyfeirir at y corff cyfan gan ddefnyddio termau megis PTI Cymru, “ni” ac “ein”).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau dan y gyfraith diogelu data, dylech gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion a nodir isod.

SUT Y GALLWCH GYSYLLTU Â NI

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu ein harferion wrth ymdrin â phreifatrwydd, dylech gysylltu â ni fel a ganlyn:

  • Drwy ebost: enquiries@pti.cymru
  • Drwy’r post: Blwch Post 83, CF11 1NA

YR HAWL I GWYNO WRTH SWYDDFA’R COMISIYNYDD GWYBODAETH

Mae gennych hawl i gwyno unrhyw bryd wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi pe baem yn cael cyfle i ymdrin â’ch pryderon cyn eich bod yn cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, felly byddem yn ddiolchgar pe baech yn cysylltu â ni i ddechrau.

NEWIDIADAU I’N POLISI PREIFATRWYDD

Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd. Cafodd y fersiwn hon ei diweddaru ddiwethaf ar [XX Medi] 2019. Mae’n bwysig bod y data personol yr ydym yn ei ddal amdanoch yn gywir ac yn gyfredol. Dylech roi gwybod i ni bob amser os bydd eich data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

DOLENNI CYSWLLT TRYDYDD PARTÏON

Mae’n bosibl y bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni cyswllt â gwefannau, ategion a rhaglenni trydydd partïon. Drwy glicio ar y dolenni cyswllt hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny, mae’n bosibl y byddwch yn galluogi trydydd partïon i gasglu neu rannu data amdanoch. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau hyn sy’n perthyn i drydydd partïon ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Pan fyddwch yn gadael ein gwefan ni, byddem yn eich annog i ddarllen polisi preifatrwydd pob un o’r gwefannau y byddwch yn ymweld â nhw.

 

Y DATA YR YDYM YN EI GASGLU AMDANOCH

Ystyr data personol, neu wybodaeth bersonol, yw unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod yr unigolyn wrthi. Nid yw’n cynnwys data lle mae unrhyw fanylion y gellir adnabod unigolyn wrthynt wedi’u gwaredu (data dienw).

Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch. Rydym wedi grwpio’r data hwnnw fel a ganlyn:

  • Data adnabod sy’n cynnwys eich enw cyntaf, eich enw cyn priodi, eich cyfenw, eich statws priodasol, eich teitl, eich dyddiad geni a’ch rhywedd.
  • Data cysylltu sy’n cynnwys eich cyfeiriad ebost, cyfeiriad eich cartref a’ch rhifau ffôn.
  • Data technegol sy’n cynnwys eich cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, gwybodaeth am y math o borwr a ddefnyddir gennych a’i fersiwn, gwybodaeth am eich lleoliad a’ch parth amser, gwybodaeth am y mathau o ategion porwr a ddefnyddir gennych a’u fersiynau, a gwybodaeth am eich system a’ch platfform gweithredu ac unrhyw dechnoleg arall sydd ar y dyfeisiau a ddefnyddir gennych i gael mynediad i’r wefan hon.
  • Data ynghylch defnydd sy’n cynnwys gwybodaeth am eich defnydd o’n gwefan a’n gwasanaethau.
  • Data marchnata a chyfathrebu sy’n cynnwys eich dymuniadau o ran cael negeseuon marchnata gennym ni a’n trydydd partïon, a’ch dymuniadau o ran cyfathrebu.

Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol amdanoch sy’n perthyn i gategorïau arbennig (e.e. manylion am eich hil neu’ch ethnigrwydd, eich credoau crefyddol neu athronyddol, eich bywyd rhywiol, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich safbwyntiau gwleidyddol, eich aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth am eich iechyd na data genetig a biometrig). Nid ydym chwaith yn casglu unrhyw wybodaeth am droseddau ac euogfarnau troseddol.

 

SUT YR YDYM YN CAEL EICH DATA PERSONOL

Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data gennych ac amdanoch, sy’n cynnwys:

  • Dulliau uniongyrchol o ryngweithio â chi. Mae’n bosibl y byddwch yn rhoi eich Data Adnabod a’ch Data Cysylltu i ni pan fyddwch yn anfon ymholiad drwy ein gwasanaeth ymholiadau drwy ebost, pan fyddwch yn llenwi ffurflenni adborth neu pan fyddwch yn gohebu â ni drwy’r post, dros y ffôn, drwy ebost neu fel arall.
  • Dulliau rhyngweithio neu dechnolegau awtomataidd. Wrth i chi ryngweithio â’n gwefan, byddwn yn casglu Data Technegol yn awtomatig am eich cyfarpar ac am eich gweithredoedd a’ch patrymau pori. Mae’n bosibl y bydd y wefan hon yn defnyddio offer dadansoddeg gwe, megis Google Analytics, er mwyn tracio’r modd yr ydych yn rhyngweithio â’r wefan ac er mwyn storio gwybodaeth. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i fesur effeithiolrwydd ein presenoldeb ar y we ac i lunio adroddiadau ystadegol.

 

SUT YR YDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL

Dim ond pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio eich data personol y byddwn yn gwneud hynny. Fel rheol, byddwn yn defnyddio eich data personol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Os yw gwneud hynny’n angenrheidiol er mwyn ein buddiannau dilys ni (neu fuddiannau dilys trydydd parti) ac nad yw eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol chi’n drech na’r buddiannau hynny.

 

Y DIBENION Y BYDDWN YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL AR EU CYFER

Isod ceir tabl lle’r ydym yn disgrifio’r holl ffyrdd yr ydym yn bwriadu defnyddio eich data personol, a pha seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt er mwyn gwneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau dilys ni, lle bo hynny’n briodol.

Nodwch y gallem brosesu eich data personol oherwydd mwy nag un sail gyfreithiol, yn dibynnu ar y diben penodol yr ydym yn defnyddio eich data ar ei gyfer. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen manylion arnoch am y sail gyfreithiol benodol yr ydym yn dibynnu arni er mwyn prosesu eich data personol, os oes mwy nag un sail wedi’u nodi yn y tabl isod.

Diben/Gweithgaredd Math o ddata  

Sail gyfreithiol dros brosesu’r data

 

Rheoli ein perthynas â chi, a fydd yn cynnwys:

 

(a) cysylltu a gohebu â chi er mwyn ymateb i ymholiad a anfonwyd atom drwy ein gwasanaeth ebost ar gyfer ymholiadau neu drwy ffurflenni adborth

 

(b) eich hysbysu ynghylch newidiadau i’n telerau neu’n polisi preifatrwydd

 

(a) Adnabod

(b) Cysylltu

(c) Proffil

(ch) Marchnata a chyfathrebu

Buddiannau dilys – gallu ymateb yn llawn i’ch ymholiad a sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol bob amser

 

 

 

Eich galluogi i gwblhau arolwg ynglŷn â’n gwefan a’r gwasanaethau a gynigir gennym (a) Adnabod

(b) Cysylltu

(c) Proffil

(ch) Defnydd

(d) Marchnata a chyfathrebu

 

Buddiannau dilys – astudio sut y mae cwsmeriaid yn defnyddio ein gwasanaethau, er mwyn datblygu a chynhyrchu busnes newydd
Gweinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (sy’n cynnwys canfod problemau, dadansoddi data, cynnal profion, cynnal a chadw systemau, daparu cymorth, cyflwyno adroddiadau a chynnal data)

 

(a) Adnabod

(b) Cysylltu

(c) Technegol

Buddiannau dilys – rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, sicrhau diogelwch y rhwydwaith, ac atal twyll

 

Darparu cynnwys a hysbysebion perthnasol i chi ar y wefan, a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebion yr ydym yn eu cyflwyno i chi

 

(a) Adnabod

(b) Cysylltu

(c) Proffil

(ch) Defnydd

(d) Marchnata a chyfathrebu

(dd) Technegol

Buddiannau dilys – astudio pa wasanaethau y mae ymwelwyr â’n gwefan yn chwilio amdanynt, er mwyn datblygu a chynhyrchu busnes newydd ac er mwyn llywio ein strategaeth farchnata
Defnyddio dadansoddeg data er mwyn gwella ein gwefan, ein gwasanaethau, ein gwaith marchnata, ein cydberthnasau â chwsmeriaid a’u profiadau

 

(a) Technegol

(b) Defnydd

Buddiannau dilys – diffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod ein gwefan yn dal yn gyfredol ac yn berthnasol, datblygu a chynhyrchu busnes newydd a llywio ein strategaeth farchnata
Cyflwyno awgrymiadau ac argymhellion i chi am wasanaethau y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt (a) Adnabod

(b) Cysylltu

(c) Technegol

(ch) Defnydd

(d) Proffil

(dd) Marchnata a chyfathrebu

Buddiannau dilys – arddangos a datblygu ein gwasanaethau a chynhyrchu cyfleoedd newydd o ran busnes

 

MARCHNATA

Rydym yn ymdrechu i roi dewisiadau i chi ynghylch rhai ffyrdd y caiff eich data personol ei ddefnyddio, yn enwedig o safbwynt marchnata a hysbysebu. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich Data Adnabod, eich Data Cysylltu, eich Data Technegol a’ch Data ynghylch Defnydd er mwyn llunio barn ynghylch beth y gallai fod arnoch ei angen neu’i eisiau, neu beth a allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut yr ydym yn penderfynu pa gynnyrch, gwasanaethau a chynigion a allai fod yn berthnasol i chi.

Byddwch yn cael negeseuon marchnata gennym os ydych wedi gofyn am wybodaeth am y gwasanaethau a gynigir gennym ac os nad ydych wedi optio allan o gael y negeseuon marchnata hynny.

MARCHNATA GAN DRYDYDD PARTÏON

Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol i unrhyw drydydd partïon oni bai eich bod yn optio i mewn a’n bod yn cael caniatâd pendant gennych i rannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata.

OPTIO ALLAN

Gallwch ofyn i ni neu i drydydd partïon roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch unrhyw bryd, drwy ddilyn y dolenni cyswllt ar gyfer optio allan sydd ar bob neges farchnata a anfonir atoch, neu drwy gysylltu â ni unrhyw bryd.

CWCIS

Ffeil destun fach yw cwci, a gaiff ei gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau y byddwch yn ymweld â nhw. Ar ein gwefan ni, rydym yn defnyddio cwcis er mwyn galluogi ein gwefan i weithio’n fwy effeithlon ac i gofio gwybodaeth ddefnyddiol am ymwelwyr. Gallwch ddarllen ein polisi cwcis yma.

Gallwch osod eich porwr fel ei fod yn gwrthod pob cwci neu ambell gwci ar gyfer porwyr, neu gallwch ei osod fel ei fod yn eich rhybuddio pan fydd gwefannau’n gosod cwcis neu’n cael mynediad iddynt. Os byddwch yn analluogi neu’n gwrthod cwcis, nodwch ei bod yn bosibl na fydd rhai rhannau o’r wefan hon yn hygyrch neu na fyddant yn gweithio’n iawn.

I gael gwybod mwy am beth yw cwcis a sut y gallwch eu rheoli a’u dileu, ewch i http://www.allaboutcookies.org/.

 

DATGELU EICH DATA PERSONOL

Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag eraill.

 

TROSGLWYDDIADAU RHYNGWLADOL

Nid ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Sut yr ydym yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel?

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith er mwyn atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu’i gyrchu’n ddamweiniol heb awdurdod, ac er mwyn ei atal rhag cael ei newid neu’i ddatgelu. At hynny, rydym yn sicrhau mai’r unig bobl a gaiff fynediad i’ch data personol yw’r gweithwyr, yr asiantiaid, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill y mae gofyn iddynt weld eich data oherwydd angen o ran busnes. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol, a byddant yn rhwym wrth ddyletswydd i barchu cyfrinachedd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw achos lle amheuir bod rhywun yn gweithredu’n groes i reolau’n ymwneud â data personol, a byddwn yn eich hysbysu chi ac yn hysbysu unrhyw reoleiddiwr perthnasol ynghylch achos o’r fath os yw’r gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny.

 

CADW DATA

AM BA HYD Y BYDDWCH YN DEFNYDDIO FY NATA PERSONOL?

Ni fyddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hwy nag sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni’r dibenion y gwnaethom gasglu’r data ar eu cyfer, a fydd yn cynnwys bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, unrhyw ofynion o ran treth ac unrhyw ofynion o ran cyfrifyddu neu gyflwyno adroddiadau. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd y cyfnod dan sylw’n fwy na blwyddyn. Mae’n bosibl y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hwy os bydd cwyn wedi dod i law neu os ydym yn credu’n rhesymol y gallai fod angen i ni fynd i gyfraith yng nghyswllt ein perthynas â chi.

 

EICH HAWLIAU CYFREITHIOL

Dan y gyfraith diogelu data, mae gennych nifer o wahanol hawliau’n ymwneud â’r defnydd a wneir o’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r hawliau hynny wedi’u crynhoi isod. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau chi a’n rhwymedigaethau ni i’w gweld ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://ico.org.uk/.

 

Hawl o ran cael gweld data Dyma hawl i gael gweld eich data personol a gwybodaeth ychwanegol amrywiol.
Hawl o ran sicrhau bod data’n cael ei gywiro Dyma hawl i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.
Hawl o ran sicrhau bod data’n cael ei ddileu Dyma hawl i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu neu’i gwaredu.
Hawl o ran cludo data Dyma hawl i gael eich gwybodaeth bersonol a’i hailddefnyddio at eich dibenion chi eich hun.
Hawl o ran gwrthod rhoi caniatâd Dyma hawl i wrthod rhoi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio.
Hawl o ran herio penderfyniadau awtomataidd Dyma hawl i beidio â derbyn penderfyniad a wneir yn gyfan gwbl ar sail trefn lle caiff eich gwybodaeth bersonol ei phrosesu’n awtomataidd, os bydd y penderfyniad hwnnw’n cael effaith gyfreithiol neu effaith sylweddol debyg arnoch.
Hawl o ran cyfyngu ar y prosesu a wneir Dyma hawl i rwystro neu atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei phrosesu.
Hawl i dynnu caniatâd yn ôl Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio unrhyw elfen o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd.

 

Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech arfer unrhyw rai o’ch hawliau.