Gwasanaethau
Mae safon uchel y gwasanaethau dwyieithog a ddarperir gennym ym maes rheoli busnes yn golygu bod PTI Cymru yn sefydliad hyblyg sydd â’r capasiti i wasanaethu ystod eang o gleientiaid busnes. Er ein bod wedi ein sefydlu ein hunain fel arbenigwyr yn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus, gallwn deilwra gwasanaeth ein canolfan gyswllt ddwyieithog i gwsmeriaid, ein cymorth ym maes marchnata a’n gwasanaethau data ynghylch bysiau fel eu bod yn gweddu i sefydliadau o bob maint a strwythur. Isod, gallwch gael gwybod mwy am ein gwasanaethau a sut y gallwn lenwi bwlch sydd yn yr arlwy y mae eich busnes yn ei gynnig ar hyn o bryd.

Canolfan gyswllt
Mae’r asiantiaid ymroddedig yn ein canolfan gyswllt yn y gogledd yn gweithredu systemau proffesiynol a dwyieithog wedi’u teilwra ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran sefydliadau ledled Cymru a’r DU.

Marchnata
Mae tîm marchnata PTI Cymru, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, yn darparu cymorth effeithiol ac integredig ym maes marchnata i’n cleientiaid gan gynllunio a chreu gweithgarwch sy’n arwain at ganlyniadau y gellir eu mesur.

Gwasanaethau wedi’u teilwra
Rydym yn gwrando ar ein cwsmeriaid ac yn creu’r gwasanaethau a ddarperir gennym ar sail yr atebion y mae eu hangen arnynt. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn deilwra ein gwasanaethau er mwyn diwallu eich anghenion yn y ffordd orau.

Data ynghylch gwasanaethau bysiau
Mae tîm data PTI Cymru yn creu ac yn diweddaru gwybodaeth am wasanaethau bysiau ar gyfer Cymru gyfan. Caiff y data hwn ei ddarparu i Traveline Cymru a systemau eraill sy’n rhoi gwybodaeth am wasanaethau bysiau.