Cyfleoedd Gwaith

Mae gan PTI Cymru Ltd ganolfan gyswllt ddwyieithog yng ngogledd Cymru. Mae asiantiaid y ganolfan gyswllt yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid a gwasanaethau derbynfa ac yn ymdrin ag ymholiadau cyffredinol a chwynion.

Caiff y gwasanaethau hynny eu darparu dros y ffôn, drwy ebost ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r ganolfan gyswllt ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd, ac mae ein hasiantiaid penodedig yno’n gweithredu systemau proffesiynol, dwyieithog wedi’u teilwra ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid ar gyfer sefydliadau ledled Cymru a’r DU.

Yr Ymgeisydd Delfrydol:

  • Yn hoffi bod yn rhan o dîm.
  • Etheg gwaith gref, a bob amser yn ceisio ychwanegu gwerth at y tîm a’r busnes.
  • Yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob cwsmer ac yn darparu gwasanaeth effeithlon, personol a phroffesiynol bob amser.
  • Sgiliau cyfathrebu da, ac yn gallu ymdrin ag ystod eang o ymholiadau a chwsmeriaid bob dydd, dros y ffôn a thrwy ebost.
  • Yn barod i gyfrannu syniadau mewn meysydd lle gellid/dylid gwella neu ehangu ein gwasanaethau.
  • Y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni:

  • Y cyfle i fod yn rhan o sefydliad sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Y cyfle i fod yn rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol.
  • Gwyliau hael.
  • Pensiwn a buddion eraill.

Os ydych yn teimlo bod y swydd hon yn berffaith i chi, byddem yn ddiolchgar pe baech yn ysgrifennu atom gan anfon eich CV (recruitment@contactcentrecymru.com)

a llythyr sy’n egluro pam yr ydych o’r farn mai chi yw’r person iawn i ni. Os byddwn yn credu y gallech weithio’n dda gyda ni, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad.

Yn y swydd hon, bydd yn ofynnol gweithio patrymau hyblyg o ran sifftiau a fydd yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.

share