Canolfan gyswllt

Mae’r asiantiaid ymroddedig yn ein canolfan gyswllt yn y gogledd yn gweithredu systemau proffesiynol a dwyieithog wedi’u teilwra ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid ar ran sefydliadau ledled Cymru a’r DU.

Marchnata

Mae tîm marchnata PTI Cymru, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, yn darparu cymorth effeithiol ac integredig ym maes marchnata i’n cleientiaid gan gynllunio a chreu gweithgarwch sy’n arwain at ganlyniadau y gellir eu mesur.

Gwasanaethau wedi’u teilwra

Rydym yn gwrando ar ein cwsmeriaid ac yn creu’r gwasanaethau a ddarperir gennym ar sail yr atebion y mae eu hangen arnynt. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn deilwra ein gwasanaethau er mwyn diwallu eich anghenion yn y ffordd orau.

Data ynghylch gwasanaethau bysiau

Mae tîm data PTI Cymru yn creu ac yn diweddaru gwybodaeth am wasanaethau bysiau ar gyfer Cymru gyfan. Caiff y data hwn ei ddarparu i Traveline Cymru a systemau eraill sy’n rhoi gwybodaeth am wasanaethau bysiau.

Pwy ydym ni

Mae PTI Cymru yn cynnig gwasanaeth rheoli dwyieithog arbenigol ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid, cymorth ym maes marchnata, gwasanaethau data ynghylch bysiau, gwasanaethau cyfieithu a llawer mwy i ystod o sefydliadau ledled Cymru a’r DU. Rydym wedi ymrwymo i greu gwasanaethau wedi’u teilwra o safon ar sail perthynas gydweithredol â’n cleientiaid. Mae ein tîm yn darparu gwasanaethau dibynadwy ac arloesol ers 1999 ac mae ganddo’r wybodaeth, yr hyblygrwydd a’r capasiti i gyflawni canlyniadau y gellir eu mesur.


Ein cleientiaid

traveline

Caiff Traveline Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n ganolfan hollgynhwysol sy’n cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Gall cwsmeriaid gael gafael ar y wybodaeth hon drwy rif Rhadffôn Traveline Cymru, ei wefan a’i ap, sydd i gyd ar gael yn ddwyieithog.

traveline

Mae fyngherdynteithio yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig 1/3 oddi ar bris tocynnau bws i bob person ifanc 16-21 oed yng Nghymru.

traveline

Mae Bwcabus yn darparu gwasanaethau ar hyd llwybrau penodol yn ogystal â theithiau sy’n ymateb i’r galw yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, De Ceredigion a Sir Benfro.

traveline

Mae TrawsCymru yn wasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau bws pellter hwy hanfodol ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

traveline

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, yn gweithredu nifer o lwybrau trên poblogaidd ar draws Cymru.

traveline

Mae Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol, sy’n rhan o’r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd, yn wasanaeth gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau trenau ar draws y rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

traveline

Mae Nextbike UK, y darparwr rhannu beiciau, yn rhan o Nextbike GmbH, sef y gwasanaeth rhannu beiciau mwyaf yn y byd.

traveline

Mae DriveTech, sy’n rhan o’r AA, yn un o ddarparwyr amlycaf cynlluniau asesu a hyfforddi a chynlluniau addysg ar gyfer gyrwyr yn y DU.

Cysylltwch â ni

I ddechrau trafod sut y gallwn ddarparu ein gwasanaethau o safon ar ran eich sefydliad chi, anfonwch neges ebost atom yn ymholiadau@pti.cymru neu llenwch y ffurflen isod ar gyfer cysylltu â ni.