Amdanom ni

 

Ein hanes

Mae PTI Cymru yn wasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a grëwyd yn wreiddiol yn 1999 gan aelodau o’r diwydiant bysiau. Roedd hynny’n dilyn cyhoeddi Papur Gwyn gan Lywodraeth y DU, a oedd yn datgan y byddai defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU yn elwa o gael un pwynt cyswllt canolog a fyddai’n darparu gwybodaeth dros y ffôn am wasanaethau bysiau a threnau. Traveline oedd y gwasanaeth a grëwyd, ac roedd y gwasanaeth i Gymru yn cael ei weithredu gan PTI Cymru dan y brand Traveline Cymru ac roedd yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol fel gwasanaeth ffôn dwyieithog a gâi ei weithredu gan dair canolfan gyswllt ledled Cymru, ond cafodd y wefan a’r gwasanaethau ar gyfer ffonau symudol eu sefydlu’n fuan wedyn. Yn ddiweddarach, cafodd y tair canolfan gyswllt eu cyfuno’n un ganolfan a gafodd ei symud i ganol tref Penrhyndeudraeth yn y gogledd. Wrth i wasanaethau digidol gynyddu ac wrth i dechnoleg ddatblygu, dechreuodd nifer y galwadau i’r ganolfan gyswllt leihau. Penderfynodd PTI Cymru wneud yn fawr o’r gwasanaeth dwyieithog o safon a gâi ei ddarparu yn y ganolfan gyswllt, a chymryd contractau masnachol, gan ymestyn ein gwasanaethau i gleientiaid o fewn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus a’r tu allan iddo.

 

Ble’r ydym ni arni erbyn hyn

Contract ar gyfer First Cymru Buses oedd ein contract masnachol cyntaf ac roedd yn golygu ymdrin â’r gwasanaeth i gwsmeriaid ac ymholiadau ynghylch eiddo coll. Yn fuan wedyn, cafwyd contract i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid a gwasanaeth archebu ar gyfer y cynllun cludiant cymunedol Bwcabus. Rydym wedi ymdrin â nifer o gontractau masnachol dwyieithog dros y blynyddoedd, o’r Eisteddfod Genedlaethol i fyngherdynteithio a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sicrhau bod anghenion ein cleientiaid yn ganolog i’r hyn a wnawn. Felly, rydym yn croesawu ymholiadau gan unrhyw ddarpar gleientiaid sy’n dymuno trafod sut y gallwn deilwra’r gwasanaethau hyn i ddiwallu eich anghenion yn y ffordd orau. Gallwch gael gwybod mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud gyda’n cleientiaid yma.

Mae’r gwasanaethau canolfan gyswllt a ddarperir gennym yn cynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid, gwasanaeth ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, gwasanaethau derbynfa a gwasanaeth ymdrin â chwynion. Caiff y gwasanaethau hyn eu darparu dros y ffôn, drwy e-bost ac ar gyfryngau cymdeithasol. At hynny, mae ein tîm marchnata yng Nghaerdydd yn cynnig cymorth proffesiynol i gleientiaid ar ffurf gwasanaethau rheoli cyfryngau cymdeithasol, cydlynu staff ar gyfer digwyddiadau a rheoli cynnwys gwefannau, gyda lefel y cymorth yn dibynnu ar anghenion y cleient. Mae tîm data PTI Cymru hefyd yn gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, ac mae’n creu ac yn diweddaru gwybodaeth am wasanaethau bysiau ar gyfer Cymru gyfan. Gellir darparu’r data hwn i ddatblygwyr er mwyn iddynt ei ddefnyddio mewn systemau eraill wedi’u teilwra sy’n darparu gwybodaeth am fysiau.

Mae llawer o gleientiaid presennol PTI Cymru wedi bod gyda ni ers nifer o flynyddoedd ac mae hynny’n tystio i lwyddiant, hirhoedledd a hyblygrwydd y gwasanaeth a ddarperir gennym. Ym mhob achos, rydym yn creu perthynas gadarn â’n cleientiaid er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth fanwl o’u gwerthoedd a’n bod yn gallu darparu gwasanaeth o’r safon uchaf ar eu rhan.

 

Os hoffech wybod mwy am y gwasanaethau y mae PTI Cymru yn eu darparu, cymerwch olwg ar ein tudalen gwasanaethau. Gallwch hefyd gysylltu â ni yma i drafod yr hyn y gallwn ei wneud ar eich rhan chi. Edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan!